Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 5. Mai, 1850. Cyf. IX. YR ASYN. Tybiaf glywed y bydol-ddyn difeddwl, gyda gwên o ddirmyg, yn dywedyd ynddo ei hun, Paham y gwariwch amser, ingc, a phapyr, yn nghylçh creadur mor ddiwerth ? Pa wers a ellir ei dysgu oddi wrth greadur mor ystyfnig a dirmygus ag yw yr Asyn ? Wrth y cyfryw, digon yw dywedyd, nad yw cyndynrwydd a gwrthnysigrwydd yn gymeriad mwy tarawedig o eiddo yr anifaii dirmygedig hwnw, nag y mae y fath gwestiynau yn arddangos cyflwr anhyblyg ac annheimladwy y galon ddynol, heb ei chyf- newid. Pe buasai gras Duw heb erioed dyneru a phlygu eu calonau, yn lle edrych ar unrhyw un o gread- uriaid y Jehofa gyda sarhâd, pa mor wael bynag, dylent edrych arnynt ollfel yn gyfartal waith y Creawdwr Holl- alluog, a bod o'r un meddwl â'r Hwn a ddywedodd, " A gwelodd Duw yr Hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd." Gen. i. 31. Y mae yn wir f'od y creaduriaid wedi gwŷrdroi oddi wrth eu gwasanaeth bwriadol, ac yn fynych, yn ofl'erynol, yn gwneyd niwaid a phoen i'r rhai a nesânt atynt; ond gallant weled nad yw hyn i gael ei briodoli i unrhyw ddifl'yg o ddaioni yn eu Creawdwr, nac i'w ystyried fel yn annghytuno â'i ddywediad bendigaid ag ydym newydd ei ddyfynu, ond yn hytrach i gael ei ol- rhain i fyny at ymadawiad ofnadwy dyn oddi wrth Dduw trwy bechod.yrhyn a'i híinghymhwysodd i wneuthur iawn ddefnydd o'r creaduriaid, ac a ddygodd ar y byd ddylif o drueni, niwaid, a thrallodion. Pa mor arw bynag, ynte, y dichon y cyfryw iaith swnio, y mae gan y creadur tlawd, cyndyu, ac ystyfnig hwn, yr Asyn, laisdros Dduw, i ddysgu i ni wersi o ddoethineb iachus a nefol. A ofyna y darllenydd, pa beth ydynt ? ymdrechaf i ddangos i ti. Goddef i fi ymholi—A wyt ti yn anadnabyddus à Duw a Christ, ao yn byto mewn ywrthryfel yn ei erhyn! Os felly, dylai golwg ar yr anifail hwn geryddu dy anni- olchgarwch. " Yr Asyn,". medd y profl'wyd,- " a adwain