Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 3. Mawrth, 1836. Cyf. IX. GAIR O GYFFINIAU Y BEDD. Ddarllenydd caTedig, ysgrifenwyd y nodiadau dylynol ar am- bell hamdden mewn cystudd trwm a phoenus, gyda bwriad i'w hanfon i'r Winllan, fel y gair olaf at y darllenydd, oddi wrth ffìd marwol, yn ymyl nos Sadwrn ei fywyd. Ar ol gorphen eu hys- grifenu liwynt, gosodwyd hwy mewn man cyfleus, wedi eu cyf- eirio at y Golygydd; a dyma hwy yn awr ger dy fron. Yr wyf yn gwersyllu ar lan yr hen Iorddonen fawr, yn nghwr eithaf yr anialwch, ac heb fod yn mhell o'm cartref hir ddysgwyliedig. Yr wyf wedi cychwyn allan ar bererindod ysbrydol, â'm golwg ar y wlad dda, er's blynyddoedd bellach. Gadewais "ffair gwagedd'' a'i chariadau lluosog, am y " ddinas sylweddol;" a dyma fi yn awr, fel dyn marwol, yn ymyl y lle. Y fath dded- wyddwch! Mae y cystudd yn myned yn fwy llym ac angerddol o hyd ; y traed yn boeth, poeth gan rym y fever, a rhyw chwys annaturiol iawn ar y wyneb : " cysgod marwol- aeth sydd ar fy amrantau ;" ac y mae angeu wedi cerfio dychryniadau y bedd ar fy ngruddiau. Dyma fi yn teimlo i'r byw yr hyn a glywais fod ereill yn ei deimlo ar amgylchiad cyffelyb—y corff yn cael ei ddirdynu gan nerth yr afiechyd : " yr ydwyt yn ei orchfygu yn dragy- wydd ;'' ac y mae yn hawdd iawn ei " orchfygu'' yn awr; canys y mae yr afiechyd ei hun yn fwy nag y gall y natur gryf'af ei ddal yn hir. " Y cadarn a symudir heb waith llaw." Y mae y llaw yma, wrth geisio dal yr ysgrifell, yn crynu fel dail yr eithnen o flaen yr awelon. Nid oes awydd am ddim yn awr; mae y beroriaeth felysaf heb swyn i mi. Gallwch roddi y delyn i grogi ar rai o'r cangenau yna ag sydd yn ymledu dros yr afon, a gad- ewch iddi fyned gyda'i pherchenog marwol i blith " cy- nulleidfa y meirw." Mae y delyn aur, telyn fawr y nef, wedi ei chyweirio i mi, ac y mae y teulu sydd gartref yn fy nysgwyl i'r ŵyl faWr.