Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WIRLLAN. Rhif. 2. CliweffOi', 1ÖÄÖ. Cyf. IX. HENAFIAETHAU DWYREINIOL. PABELLAU. Ddarllenydd hawddgar, yr ydym am gyfeirio ein gwynebau, y mia hwn, tua hen breswylfeydd ein brodyr a'n tadau henafol, Abraham, isaac, Jacob.'a rhei'ny. Buont hwy, weithiau, yn " trigo mewn lluestau," bryd arall yn " crwydro mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau, ac ogofeydd y ddaear," a rhyw leoedd felly. Heddyw yn preswylio mewn dinas, y fory yn codi tent yn nghanol " diffaethwch gwâg erchyll,'' a threnydd yn ymguddio mewn rhyw ogofeydd hyllion yn mherfeddion y mynyddoedd. " Cawsant hwy lechu yn nghysgod tawel y gráig ddystaw pan oedd y gwynt yn rhuo ar y mynyddoedd goruwch iddynt," fel y dywedodd yr enwog Gillfillan am rai o gyfamodwyr yr Alban. Byddai yn hynod o ddifyr eu canlyn o ddinas i babell, ac o babell i ogof; ond ofnir i Mr. Golygydd waeddi, " Trowch yn eich holau, rhag myned yn rhy bell." Felly ni wnawn, am y tro, ond troi i mewn i'w pabell i gael golwg arni am unwaith. Yr oeddpreswylwyrboreuaf y byd yma'n gwladychu yn rhyw le yn Asia, ar derfynau dwyreiniol gardd Eden ; ac o dipyn i beth, y mae yn debyg eu bod yn ymwasgaru yma a tliraw ycbydig yn mhellach o'u preswylfeydd cyntefig. Nis gellir dyfalu, chwaith, pa fath breswylfeydd ydoedd ganddynt. Nid wyf wedi gweled un dychymyg o eiddo neb yn nghylch hyny. Ni sonir, mewn un hanes a wel- ais, am na thŷ, nac ogof, na phabell, yn perthyn iddynt. Am Cain y dywedir, " Gwibiad a chrwydriad a fyddi ar yddaear:" nid felly yr oedd ei gyfoeswyr, gellir medd- wl. Gwibio a chrwydro yr ydoedd ef, fel dyn wedi ei felldithio gan y nefoedd a'r ddaear. Ond, aroswch chwi! Y mae yna un froddeg yn ei hanes sydd yn ymddangos yn erbyn y meddylddrych diweddaf a nod%vyd : " Yna yr