Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 12. E&liag-fÿr, 1855. Cyf. VIII. GALWAD I WEDDI. Ychydig flynyddau yn ol, cyhoeddwyd yn Saesoneg sylwedd yr hyn a ganlyn, yn anog fod undeb rhwng pawb cristionogion yn cael ei sefydlu, i weddio. Yr amser penodedigydoeddo'r23ain o Ragfyr i'r31ain. Gwyddom y bwriedir cynal yn nghorffy mis presenol, a'r un caniynol, gyfres o foddion cyhoeddus yn ein cynulleidfaoedd yn y üywysogaeth, er dwyn yn mlaen adfywiad ar waith yr Arglwydd yn ein heglwysi, ac arwain eneidiau colledig at Geidwad. Ac fel moddion parotoawl i hyny, yr ydym yn galw ar ein holl eglwysi i dreulio wythnos neu ddwy yn flaenorol i'w cyfarfodydd cyhoeddus mewn ymos- tyngiad gweddigar o fiaen yr Arglwydd. Nid gormod fyddai gofyn am i awr y boreu a'r hwyr gael ei threulio gan eincyfeillíon mewn undeb â'u gilydd at orchwyl mor aruthrol bwysig. Y mae llawer o bethau yn galw am i bobl yr Arglwydd gael eu dwyn i gytuno mewn gweddi. O'r cyfryw, meddyliwn yn 1. Am sefyllja foesol ein gwladioriaeth.—Y mae yn bwrw ymaith ofn Duw, ac yn ymwadu âg enw yr Ar- glwydd lesu Grist. Y mae am ddileu y gwahaniaeth sydd rhwng gwirionedd a chyfeiliornad, rhwng goleuni a thywyllwch. Y mae yn gosod annghrist yn gydwastad â Christ; y mae yn meithrin Pabyddiaeth ; y mae yn rhuthro rhagddi i Anffyddiaeth ; y mae yn dirmygu deddf- au y nef ; y mae yn halogi Sabbothau Duw ; y mae yn rhuthro i mewn i gamwedd o bob enw—trachwant, an- udoniaeth, hudoliaeth, dygasedd, ymryson, llofruddiaeth, a phob ffurf o ddrygioni. Y mae yn gwawdio barnau Duw, ac yn gwrthod ystyried, nac ymostwng dan ei wialen drom. 2. Am sefyllfa yr eghoysi.—Y mae bywyd yn rhy isel ynddynt oll. Y mae y gwaedgur yn curo yn egwan, fel pe byddai ar drangcedigaeth. Y mae ysbrydolrwydd dwfn yn rhy ddyeithr i ni. Nid ydym yn gweddio ond