Skip to main content

=a| Y WINLLAN. Rhif. 11. Tacliwe«lcl, 1855. Cyf. YIII. "FFRWYTHANT ETO YN EU HENAINT." Bo y Parch. W. E. Miller (un o'n gweinidogion lla- furus a santaidd yn Lloegr) fyw i'r oedran teg o dair blynedd ar ddeg a thriugain. Y pymtheg mlynedd di- weddaf ohonynt a dreuliodd yn Uwchrif. Wedi gweithio ei hun allan trwy angerddolder ei lafur, gorfodwyd ef i adael cylch yn yr hwn yr oedd wedi bod yn hynod o lwyddianus, a'r hwn oedd yn berffaith gydnaws â'i deiml- adau—yn hen ŵr pan yn nghanol ei ddyddiau. Un o brofedigaethau gweinidogaethol chwerwaf ein tadau parchus, ydyw gorfod encilio, gyda chyfansoddiad wedi ei dori i lawr gan fethiantwch a gorlafur, o'r sefyllfa uchel ag y buont yn ei llenwi fel angylion yr eglwys i un llai amlwg y bywyd uwchrifol. Ond yn y cylch hwn y mae defnyddioldeb llawer ohonynt wedi profì o werth mawr i'r eglwys. Y mae eu hoed a'u profiad yn eu galluogi i fyned i mewn i brofiad, temtasiynau, dyled- swyddau, a breintiau y bywyd dwyfol, gyda phwyll a doethineb tadol, fel ag y maent yn eu dyddiau olaf yn dwyn ffrwyth er mawl a gogoniant ei ras ef. Yn y cyf- nod hwn o'i fywyd ymgadwodd Mr. Miller yn holl ranau ei waith hyd y goddefai ei nerth iddo. Parhaodd i bre- gethu mor fynych ag y gallai, ac yn ei henaint cafodd ffrwyth. Ar ymweliad i Nottingham yr oedd mewn sef- yllfa o fawr wendid, eto ei hen gyfeillion a lawenhaent ei weled unwaith yn'rhagor yn y pwlpud, pan y cymhellodd arnynt ei hoff athrawiaetho gyflawn santeiddrwydd, gyda nerth mawr. Yr oedd masnachydd parchus yn yr oedfa yr hwn oedd yn aelod o'r society, ac a feddai ond hyny o grefydd a'i gwnai yn druenus. Yr oedd beunydd yn gwynfanus, grwgnachlyd, ac anniolchgar, er ei fod yn byw yn nghanol digonedd. Modd byaag, gwrandawodd ar Iais y pregethwr gyda sylw neillduol, aeth y gair i'w galon, gwelodd yr Arglwydd yn dda ddryllio ei gadwyn-