Skip to main content

Rhif. 10. ilyclref, 18*5. Cyf. VIII, Y BACHGEN ANUFUDD. Fr nhad, ar ol bod yn absenol am amryw flynydd- oedd, a ddychwelodd i'r tŷ ag oedd mor anwyl ganddo. Yr ydoedd wedi gwneyd ei fordaith ddiweddaf, ac yn llawenhau ei fod Wedi cyraedd hafan o orphwysfa oddi wrth beryglon y môr. Yn ystod ei absenoldeb yr oedd- wn i wedi tyfu o fod yn blentyn a baban fy mam (cany8 myfì oedd ei ieuangaf) i fod yn fachgen gwyllt ac anys- tyriol. Ei llais tyner nid allai mwyach fy rheoli. Yr oeddwn yn aml yn ystyfnig, ac weithiau yn anufudd. Tybiwn ei fod yn arwydd o uwchafîaeth dynol i beidio â bod yn ddarostyngedig iddylanwad gwraig. Bu dychweliad fy nhad yn amgylchiad ffortunus i mi. Efe a ganfu yn fuan fod ysbryd anhyblyg yn ymgynhyrfu ynof. Gwelais wrth ei ymddygiad ei fod yn ei anfodd- hau, er am rai dyddiau na ddywedodd air wrthyf yn ei gylch. Ar brydnawn têg yn Hydref, dywedcdd fy nhad wrthyf am gymeryd fy het a myned allnni roi tro gycìag ef. Troisom i lawr maes agored—chwareufan dewis- edig plant y gymydogaeth. Ar ol i ni ymddyddan yn nghylch amryw bethau, gofynodd fy rihad i mi, a gan- fyddwn i y cysgod mawr a achosid gan y cruglwyth creigiau oedd yn nghanol y maes. Atebais yn gadarn- haol. " Fy nhad," meddai, " a berchenogai y tir yma. Hwn oedd fy chwareufan i pan yn fachgen. Safai y graig acw yr amser hyny. I mi y mae yn arwydd rhybuddiol, a phryd bynag yr edrychaf arni, y mae yn galw i'm cof lanerch dywyll yn fy mywyd—amgylchiad mor boenus i aros arno fel pe na byddai yn rhybudd i cbwi na byddai i mi siarad amdano. Gwrando, ynte, fy machgen anwyl, a dysg ddoethineb oddi wrth gyfeiliornadau dy dad." " Bu farw fy nhad pan nad oeddwn i ond plentyn. Myfi oedd yr unig fab. Fy mam ydoedd ddynes dyner a