Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WIULLAN. Rhif. 9. ffleali, 1855. Cyf. YIII. JAMES ORWEL A'I BLANT. Ysgrifenwyd yr hanes a ganlyn gan un ag oedd yn ymdeithio yn Lloegr Newydd, yn America Ogleddol, er mwyn sylwi ar ansawdd y wlad. Tra yr ydoedd fel hyn yn crwydro, cyfarfu âg anedd fechan daclus yn nghanol y coed. " Rhyfeddais," medd yr ymdeithydd, " weled, nid yn unig arwyddion hywyd, ond bwthyn bychan hardd, a gardd drefnus, mewn lle mor unig ; ond tybiais yn fuan mai preswylfa James Orwel ydoedd, hanes yr hwn a glywswn yn ddiweddar." James Orwel, at breswylfa yr hwn yr oeddwn yn awr yn nesau, a anwyd yn yr Alban. Dacth i'r wlad hon oddeutu deg a thriugaiu o fiynyddoedd yn ol, mewn gobaith i ym- gyfoethogi. Rhoes i fyny ei fasnachdy bychan yn agos i'r môr, ac wrth farchnata enillodd feddianau ynlled hel- aeth ; ond llosgwyd y pentref llc yr ydoedd yn byw gan y gelyn, yn nghyda'i hoü feddianau, yn y rhyfel diweddar. Ergyd drom ydoedd hon i un a roddasai ei galon ar ei drysorau bydol; ac yr oedd yn drymach am ei fod yn an- nysgwyliadwy. Ymgysurai dros amser mewn gobaith y cai ei ad-dalu gan y llywodraéth; ond yn hyn hefyd y cafodd ei siomi. Yn raddol daeth yn sarug ei dymher, ac yn afrywiog wrth bawb. Symudodd gyda'i wraig a phlentyn bychan i'r lle arrial hwn. Trigasant yma fwy nag ugain ralynedd heb fawr o gyfeillach â'r byd, oddieithr ei fod yn rnyned unwaith yn y pymthegnos i bentref cyfagos i werthu dysgluu pren a weithiai gartref. Yn y cyfnod hwn, yr oedd yn byw arno ei hun, gan ddangos nad oedd yn cbwenych cyfeillachu à neb. Ond yn nghylch tair blyncdd yrr ol bu farw ei wraig yn dra sydyn, heb fod yn glaf ond ychydig ddyddiau. Dygwyddodd fod adfywiad mawr ar grefydd yr un amser yn y pentref agosaf ato. Yr hen ŵr a wahoddodd y gweinidog i anghladd ei wraig. Ymdrechodd y gweinidog ar yr achlysur yma i