Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhif. 8. Awst, 1955. Cvf. VIII. Y MANTEISION 0 EFRYDTJ HANESIAETH EGLWYSIG. Y mae pob gwir wybodaeth yn dda ac yn werthfawr; eithr y mae gwybodaeth arn rai pethau yn rhagori mewn daioni a gwerthfawredd. Yn mhlith y gwybodaethau y dylid bod yn hysbys ynddynt, diau fod hanesiaeth eglwysig yn un o'r rhai penaf, ar lawer o gyfrifon. Modd bynag, nid ein gwaith yn bresenol ydyw cymharu y gwybodaethau hyn; eithr yn hytrach nodi rhai o'r manteision gwerth- fawr o efrydu hanesiaeth eglwysig. 1. Y mae ynfanteisiol er deall y natur ddynol. Dywedwyd lawer gwaith mai yr addjsgydd goreu i ddyn ydyw protìad ; ac ni raid i ni ond ystyried i weled gwirionedd y dywediad. Yr oedd ein tadau wedi canfod hyn, canys dywedent hwy—"Goreu addysg, yr addysg a brynir." Eithr er eu bod hwy yn deall mai fel hyn yr oedd gyda golwg ar bethau cyfFredin bywyd, nid oeddent yn deall mai felly yr oeclii hefyd gyda golwg ar athraw- iaeth. Dyma lle yr oedd eu diffyg. Seilient hwy eu hathrawiaeth ar speculation, ac nid ar brofiad. Un o neillduolion rhagoraf athrawiaeth ddiweddar ydyw, eu bocl yn seiüedig ar brofiad, ac nid ar speculaiion. Rhaid adeiladu palas gwybodaeth ar brofiad. Pa fwyaf o brofiadau a geir, goreu oll; canys sicraf yn y byd fydd y sylfaen. Os mynwn gan hyny ddeall y natur ddynol, rhaid i ni gymeryd profiad yn addysgydd. Edrychwn arnom ein hunain, ac arein cymydogion. Eithr y mae y cylch yn rhy fychan i roddi i ni yr adnabyddiaeth angenrheidiol o'r natur ddynol, yn ei gwahanol agwedd- au. Y mae arnom eisieu lluosogi profìadau, trwy weled dynion mewn mwy o wahanol amgylchiadau. Pa le y ceir hyn, ond ar ddalenau hanesiaeth 1 Yma y cawn olwg ar ddynion mewn myrdcl o agweddau. Gwelwn pa fodd yr ymddygant yn ngwyneb yr amgylchiad hwn, a'r helynt