Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 5. Mai, ISŴä. Cyf. VIII. Y BRENIN GEORGE. (Parhàd tudal. 67.) Ar ol dychweliad y brenin at y Ceidwad, a'i adferiad llawn i gymeradwyaeth yr Arglwydd trwy faddeuant, daeth ffrwythau ei ffydd gadwedigol i gael eu hamlygu yn brydferth yn ei fywyd dyfodol, fel na chafwyd Ue i ameu nad oedd George yn " greadur newydd," Yn fuan ar ol yr amgylchiad dedwydd hwnw, gadawodd Vavau, a thalodd ymweliad âg Ynysoedd Haabai. Yr ydoedd yr adfy wiad crefyddol a dorodd allan yn Vavau wedi cyraedd yno hefyd. Llawer o galonau celyd a feddalwyd, a chan- oedd o eneidiau truenus a dderbyniasant drugaredd gan yr Arglwydd. Dygwyddodd pan yno i'r brenin George a phenaeth o'r enw Lot, gydgyfarfod yn yr un gynull- eidfa. Yr oedd y penaeth amser yn ol wedi cyfiawni trosedd yn erbyn y brenin; ac yr oedd y ddau, er hyny, wedi bod mewn gelyniaeth chwerw tuag at eu gilydd. Ond yno cyfarfyddodd y ddau mewn teimladau gwahanol, daliodd Uygaid y naill y llall; ac heb gymeryd eu hattal gan y lluoedd oedd yn tremio arnynt, rhuthrasant trwy y gynulleidfa i freichiau eu gilydd. Syrthiasant ar yddfau eu gilydd, ac wylasant; a chan annghofio eu dygasedd blaenorol, daethant i garu fel brodyr yn Nghrist. Pan y daeth yr amser iddo i ymadael oddi yno, yr oedd y bobl wedi derbyn y fath adfywiad a chalonogiad trwy ei ym- weliad, fel na wyddent pa fodd i'w ollwng. Ymgynull- odd rhifedi mawr i ffarwelio àg ef. Fel yn y dyddiau gynt, aethant ar eu gliniau ar y traeth a gweddiasant; llawer a gusanasant ei law ac a wylasant. Yn y man, gwelodd Mr. Tucker, y cenadwr, ryw un yn cael ei gof- leidio yn mreichiau y brenín, a'i wasgu yn anwyl at ei fynwes; a phwy ydoedd ond ei frawd Langii, yr hwn y bu unwaith yn rhedeg ar ei ol gyda'r bwriad o'i lof- ruddio.