Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 2. Cliwefror, 1855. Cyf. yiii. Y FERCH FACH YN OFFERYN I DDYCHWELYD EI THAD A'I MAM. Ar brydnawn o'r haf, geneth droednoeth mewn gwisg garpiog, a ellid ei gweled mewn coed yn casglu tanwydd. Nid oedd ond prin ddeg oed, eto ei rhieni a'i hanfonent ddydd ar ol dydd, fel y tro hwn, i gasglu prenau crin, ac i'w cynyg ar werth o dŷ i dŷ. A phryd na byddai gan- ddi ddim i'w werthu, anfonid hi allan i gardota. Ni feiddiai ddychwelyd adref heb rywbeth, os mynai ysgoi cael ei dwrdio, ac fe allai ei churo, gan fod ei rhieni yn dlawd, a'i thad yn ddyn sarug a nwydwyllt. Nid fel hyn yr oedä wedi aifer bod gyda'r teulu ; ond er pan y daeth yr amserau yn galed, ac afiechyd i'r teulu, i attal y tad, fely gobeithiai, i lwyddo gyda'i grefft—crydd oedd—ymollyngodd i ddigalondid, trôdd allan yn feddw- yn, a thrwy hyny digiodd ei holl gwsmeriaid, a pher- ffeithiodd ei drueni teuluoedd. Am dymor, y fam, yr hon oedd ddynesweithgar, ondmor anwybodus am Dduw a'i air a'i gŵr, a orfodwyd i gynal y teulu, trwy fyned allan i olchi. Ond er's oddeutu blwyddyn, yr oedd y teulu wedi ei amddifadu o hyn o gynaliaeth, trwy i orla- fur y wraig ddwyn arni afiechyd, a gosodwyd hi ar wely yn gloíf o law a throed gan y parlys, yn cael ei chylch- ynu gan ei gŵr ffyrnig, a thri o blant haner noeth a newynog. Yr henaf o'r plant ydoedd Mary, yr eneth oedd yn hel y tanwydd. Yr eneth hon, fel yr ydoedd i'w chael yn y coed y diwrnod hwnw, ydoedd wedi casglu ffagoden led fawr o gangenau crin, a deimlai yn flin- edig wedi bod yn crwydro ar draws y perthi, a eistedd- odd wrth fôn ffawydden gysgodol i orphwyso. A thra yn eistedd yno, y mae holl adar y goedwig fel yn teimlo rhyw fewnol dosturi dros y plentyn druan, ac fel am wneyd a allant i'w chalonogi, ei chysuro, a'i lloni. Tyh- iai Mary bach nad oedd erioed wedi clywed y côr asgellog