Skip to main content

Y WIN-LLAN. Rhif. i. Ionawr, 1855. Cyf. Ylll. Y FLWYDDYN 1855. Mor gyflym y mae ein hamser yn hedeg! Y mis olaf —yr wythnos—y diwrnod—yr awr—y munud olaf o flwyddyn eto wedi dirwyn i fyny! Ac wele ddechreuad y flwyddyn 1855-wedi gwawrio arnom ! I'n derhynwyr a'n cyfeillion, i'n pleidwyr a'n gwrthwynebwyr—i bawb y dymunwn, o waelod calon, "flwyddyn newydd dda.'' Bydded tangnefedd yn mhob teulu ag sydd yn rhoddi i ni groesawiad misol dan eu cronglwyd, a llawenydd yn mhob llygad ag sydd yn arfer rhedeg dros ein tudalenau, a bendithion deheulaw y Goruchaf yn peri i gwpan pob un redeg drosodd. Cafodd llawer o'n darllenwyr y fraint o derfynu y flwyddyn sydd newydd ein gadael, fel miloedd o gydadd- olwyr iddynt, mewn dystawrwydd crefyddol ar eu gliniau yn nghysegr Duw; a chafodd Cofiadur y nef, ag sydd eisioes wedi dechreu ysgrifenu coflyfr y flwyddyn newydd yn nghofnodion y munudau cyntaf ohoni, osod i lawr ar gyfer enw llawer un, aml i ddeigryn o edifeirwch cywir, aml i addewid o fywyd purach, ac aml i anadliado foliant a diolchgarwch santaidd, tra " ar yr awr hono o'r nos'' y mesurent eu camrau tuag adref i ymbenlinio wrth erch- wyn y gwely am y tro cyntaf yn y flwyddyn newydd, i ymgysegru drachefn i waith a gwasanaeth eu Duw. Caft'ed pob munud o'r flẁyddyn eu treulio mor dduwiol, a'u cofnodi mor ífafriol, a'r rhai cyntaf hyny. Ond y flwyddyn 1855. Pa beth y mae hi yn ei ddwyn? Ai iechyd neu gystudd î Bywyd ai angeu ? Llawenydd ai trallod ? Ai prinder, drudaniaeth, rhyfeloedd, a heint- iau gwladwriaethol, i ddarostwng y wlad a difa y genedl? Ni wyddom ni, Duw a'i gŵyr. Y mae y rhagolwg yn ymddangos yn lled fygythiol, yr awyrgylch yn dra chy- mylog, y llifeiriant yn uchel, a'r dyfroedd yn derfysglyd; a dedwydd y sawl a allant ei weled ef yn " eistedd ar y