Skip to main content

Rhif. 12. rniag-fÿr, 1M54L. Cyf. VII. RHAGARFAETHIAD. Gelwch hi wrth yr enw a fynoch, "etholedigaeth, ar- faeth, neu wrthodedigaeth," daw i'r un peth yn y diwedd. Synwyr y cyfan yw hyn, trwy dragwyddol, annghyf- newidiol, ac anwrthwynebol arfaeth Duw, y mae un ran o ddynolryw yn anffaeledig yu gadwedig, a'r gweddill yn anffaeledig golledig; fod yn anmhosibl i neb o'r rhai blaenaf gael eu colli, nac o'r rhai olaf gael eu cadw. Eithr os fel hyn y rcae, yna y mae pob pregethu yn ofer. Y mae yn ddiangenrhaid i'r rhai sydd wedi eu hethol, oblegid cedwir hwy yn anffaeledig, pregethu neu beidio ; gan hyny, y mae dyben pregethu—"achub eneidiau ''— yn ofer gyda golwg arnynt hwy. Mae hefyd yn gwbl ddi- les i'r rhai sydd heb eu hethol; canys y mae yn anmhosibl eu cadw hwy—pregethu neu beidio, hwynt-hwy yn an- ffaeledig a gollir. Y mae dyben pregethu, gan hyny, yn ofer gyda golwg arnynt hwythau hefyd. Felly yn y naill achos a'r llall, y mae ein pregethu ni a'ch gwrando chwi yn ofer. Y mae hyn, gan hyny, yn brawf eglur nad yw athraw- iaeth rhagarfaethiad yn athrawiaeth o Dduw ; oblegid y mae yn gwneyd yn ofer ordinhâd Duw, ac nid yw Duw wedi ymranu yn ei erbyn ei hun. Hefyd, y mae yn tueddu yn uniongyrchiol i ddinystrio y santeiddrwydd hwnw, yr hwn yw dyben ordinhadau Duw. Nid wyf yn dywedyd, " Nid oes neb agsydd yn ei dal yn santaidd," eithr fod yr athrawiaeth o etholedigaeth neu wrthodedigaeth ddiam- odol yn tueddu i ddinystrio santeiddrwydd yn gyffred- inol; canys y mae yn cymeryd ymaith yn llwyr y cy- mhelliadau cyntaf iddo a gynygir mor fynych yn yr ysgrythyr, gobaith am wobr ddyfodol, ac ofn cosp ; gobaith am y nefoedd, ac ofn uífern. Nid yw fod y rhai hyn yn myned i gospedigaeth dra- gwyddol, a'r rhai hyny i fywyd tragwyddol, yn gymhellion