Skip to main content

Rhif. 10. Hjrtref, 1854. Cyf. yii. "DEDWYDD YW RHODDI YN HYTRACÍI NA DERBYN." " Ac felly yr ydych yn myned i'ch amddifadu eich hunan o gysur er mwyn chwanegu at elw y masnachwr goludog yma ?" Y weddw, dan wrido yn ei gwyneb, a atebodd, " Gall ymddangos yn beth dibwys i chwi; ond y meddwl fy mod yn araf a sicr yn tynu ymaith y gwarthrudd olaf oddi ar anrhydedd fy ngŵr, ydyw y mwyaf o'm cysuron daearol; Mr. Miner ydyw ei echwynwr olaf, ac os gwel Duw yn dda, caiff y ffyrling olaf ei thalu." Ei pherthynas anfwyn a atebodd gyda phwyslais " Ffil- oryn;" ac ymaith â hi yn ddigofus o'i phresenoldeb. " Yr ydwyf wedi ei gael o'r diwedcl," ebai llais arian- aidd ; a gwyneb tlws, siriol, a dysglaer, a chwalodd ymaith y prudd-der. " Edrychwch, íy mam ! dwy gninea oll yn eiddof fi! dwy arall a wna bedair ; ac felly bydd gen' ym sym bach go daclus i Mr. Miner." Crynai y dagrau yn llygaid y weddw, a dysgleirient ar ei grudd welw. " Ỳ mae i gostio dy fywyd i ti, fy un anwyl," meddai ynddi ei hun. " A ydyw pryf y rhwd wrth galon fy mlodeuyn prydferth i 9 A raid i mi dy roddi i fyny i lafur gorflin yn aberth ar allor dyledswydd ? Ai tybed f'od Duw yn gofyn hynT' Eva a benliniodd wrth draed ei mam, lle yr ydoedd wedi cwytnpo gyda holl ddigrifwch plentyn, a'i llygaid yn dal i dremio ar yr aur. Wrth gyfodi i fyny ei golwg cyfarfyddodd âg un ei mam yn llawn o bryder, ac wedi ei gyffwrdd gan ofid, gwên ddisymwth a äorodd dros ei gwynebpryd llednais. " Meddwl yr oeddwn y fath bethau diddiwedd a brynai yr arian yma: peidiwch âg edrych mor sobr, mam. Y fath fantell gynhes i chwi, ac ychydig o ryw ddefnydd taclus i orchuddio yr hen gadair freichiau aflêr yna,' a thipyn bach, waeth gan i pa cyn lleied, ogarped i'w roddi