Skip to main content

Y WINLLAN. Rrif. 8. Awst, 1*54. Cyf. VII. GWELY ANGEU SANT A PHECHADUR YN CAEL EU CYFERBYNU. GAN MRS. II. A. ROGERS. ' ' Pridd ydym, ac i'r pridd y dychwelwn. Treigliad ychydig yn chwaneg o flynyddoedd—ychydig eto o fìs- oedd neu wythnosau ; na, ysgatfydd, ychydig eto o ddydd- iau neu funudau diflanedig, a byddwn ni wedi myned. Wedimyned! Ibale! O! feddwl Arswydus, Ofnadwy, a Gwynfydedig ! Arswydus i bawb—O/nadtoy i'r ansant- aidd, i bechaduriaid—a Gwynfydedig i saint y Goruchaf. Dacw ddyn yn agosau at ymylon tragwyddoldeb. Fel y mae ei holl olygiadau wedi cyfnewid ! Mor ofer a diwerth yr ymddengys pob peth dan yr haul i'r cyfryw un! Mor bwysig pethau Duw ac iachawdwriaeth i'r anfarwol enaid ! Boed i ni ystyried un wedi treulio bywyd mewn anwybodaeth o Dduw—wedi ymgladdu mewn pleserau— wedi ymgolli mewn balchder, yn ddiofal, yn ddiofn, yn cael ei garu a'i anwylhau gan ei gyfeillion cnawdol, ac yn feddianol ar ran weddol o gyfoeth—y cyfryw un yn mlodau bywyd. Y mae rhywglefyd angeuol yn cymeryd gafael yn ei babell freuol; arteithir ef gan ddirboenau dolurus ; amgylchynir ef gan ei gyfeillion wylofus, holl gynorthwyon y rhai ydynt ofer; y meddyg ni rydd un gobaith o'i adferiad; a chenfydd ei fod cyn hir i gael ei wthio ymaith i dragwyddoldeb anorphenol. Beth yw ei olygiadau yn y sefyllfa yma % y cyfryw olygfa a welodd fy llygaid, ac felly gyda sicrwydd llawn y gallaf ei darlunio. Tybiaf eto ei glywed yn dywedyd, " Och, truan o ddyn ydwyf fi!" "Pa le y mae fy mhleserau yn awrl Pa faint a elwodd fy malchder i mi ? neu pa lesâd a wnaeth cyf- oeth gyda'i holl fost i mi? Y rhai hyn a aethant ymnith fel cwmwl; ac yn awr, O ddychrynllyd fecldwl! Rhaid gadael 'na-wr pob ploser ffol, At frawdle Duw'rwy'n cael í'y nol; Rhaid i>\vrando llais y Barnwr mâd Yn sicrhau fy mythol stâd.