Skip to main content

•ì Y WINLLAN. Rhif. 7. €rOi*i»ìienliaf, 1*54. Cyf. VII. "PA. FODD Y CWYMPODD Y CEDYRN!" Cyn y bydd i'r llinellau byn gyraeJd ein darllenwyr, bydd teimlad llawer un ohonynt wedi ei daro â dwysder synllyd—llawer llygad wedi gollwng y deigryn dystaw i dreiglo tros ei ymyl—llawer meddwl wedi ei wisgo à phrudd-der—llawer mynwes wedi gollwng allan ohoni ochenaid drom ; ac o blith miloedd ein Hisrael, o bob cwr i'n gwersylloedd, y bydd gwỳr a gwragedd, gwŷr ieuaingc a gwyryfon hefyd, wedi bod yn cwynfanus ddywedyd, ' Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel a'i faichogion." Y gwylwyr a symudwydoddiar y mur—tywysogion a gwŷr inawr yn Israel a aethant i lawr—Y Peirch. Robert Newton, D. D.; Samuel Davies, laf; a David Evans, laf, a fuont feirw o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd! " Pa fodd y cwympoàd y cedyrn!" Galwyd Doctor Newton allan i waith y weinidogaeth ar derfyn y ganrif ddiweddaf, pan yn ddeunaw mlwydd oed ; ac am bymtheng mlynedd a deugain llafutiodd mor orchesiol yn ngwaith y cynauaf mawr, fel na bu neb cyffelyb iddo trwy ei oes. Yr oedd wedi ei gynysgaethu gan Awdwr ei fôd à chyfansoddiad ffafriol i'w lafur mawr a chyhoeddus. Yr oedd ei ffurf yn dalgryf; ei wynebpryd yn ddewrwych; ei lygaid yn fyw a dysglaer; ei lais yn gryf, peraidd, a threiddiol; ei ddull yn ddengar a dylan- wadol; ei faterion yn sylweddol ac amrywiaethol; ei resym- au yn argyhoeddiadol; a'i gymhwysiadau ynafaelgara blaenllym. Wrth draddodi ei genadwri, safai ger bron miloedd o'i gyd-anfarwolion fel "cenadDuw," heb un arwydd ei fod mewn magl gan ofn dyn, neu fod arno gy- wilydd o'r Efengyl i'r hon yr oedd yn bregethwr. Ym- ddangosai yn yr aieithfagydathawelwch santaidd; edrych- ai ei g)nulleidfaoedd yn eu gwynebau; apeliai at eu cydwybodau fel un yn gwybod holl hanes eu bywyd ; a