Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhjf. 6. Meliefin, 1S54. Cyf. VII. CYNIFEH O ALWAIJAU, GAN MRS. BEECHER STOWE. Yr oedd yn brydnawn llym a thêg ar ddiwedd Rhag- fyr, pan y dychwelodd Mr. A— o'i gyfrifdŷ at gysuron tân glo dysglaer, a chadair ddwyfraich gynhes yn ei bar- lawr gartref. Newidiodd ei fotasau cryfion am yslopanau (slippersj, casglodd o amgylch ddyblygion ei hug bryd- nawnol, ac yna, dan ymorweddian yn ol yn ei gadair, edrychodd i fyny ar y nenfwd, ac yna o'i amgylch gydag arwydd o foddlonrwydd ; ac eto, yr oedd rhyw gwmwl ar ei ael. Pa beth a allai fod y mater gyda Mr. A.? I ddweyd y gwir, yr oedd y prydnawn hwnw wedi derbyn ymweliad yn ei gyfrifdŷ gan oruchwyliwr un o brif elusenau crefyddol y dydd, ac wedi cael ei gymhell yn daer i ddyblu ei gydroddiad ar y flwyddyn o'r blaen; ac yr oedd y cymhellion wedi eu gwasgu gan osodiadau a rhesymau i'r rhai na wyddai yn iawn pa fodd i ateb. " Mae pobl yn meddwl, debyg,'' meddai wrtho ei hun, "fy mod i wedi fy ngwneyd o arian. Dyma y pedwarydd achos ag yr ydwyf eleni wedi cael fy nghymhell i ddyblu fy nghydroddion tuag ato; ac y mae yflwyddyn hon wedi bod yn un o dreulion teuluol trymion—adeiladu a do- drefnu y tŷ yma—carpedau, crogleni. Nid oes dim di- wedd ar y pethau newyddion sydd i'w prynu. Yn sicr, nid wyf yn gweled pa fodd y gallaf fi roddi dimai yn rhagor mewn elusen. Wedi hyny, dyna y dylebion (bills) am y genethod a'r bechgyn—y niaent oll yn dweyd fod yn rhaid cael cymaint arall yn awr a chyn i ni ddyfod i'r tý yma. Tybed i mi wneyd yn iawn yn ei adeiladu?" A chipdremiodd Mr. A. ar y nenfwd, ac o'i amgylch ar y do- drefn drudfawr, ac edrychodd mewn dystawrwydd i'r tàn. Yr oedd yn fiinedig, aflonydd, a chysglyd; daeth ei ben yn nawfus, cauodd ei lygaid. Yr oedd wedi cysgu. Yn ei gwsg, tybiai ei fod yn clywed curo wrth y drws: efe a'i