Skip to main content

Rhif. 4. .B£l»rill, l»S»-ft. Cyf. VII. Y GORCHYMYN CYNTAF MEWN ADDEWID. Y mae yn ffaith ddigon hynod, mai y pumed gorchymyn ydyw yr unig un o'r deg ag y mae addewid yn gynwys- edig ynddo, er dangos y pwys neillduol a ddyry yr Ân- feidrol Ddeddfwr ei hun arno, " Anrhydedda dy dad a'th fam, fel yr estyner dy ddyddìau ar y ddaear.'' Yr apostol yn ei epistol at yr Ephesiaid hefyd a ddywed, " Anrhydedda dy dad a'th fam íyr hwn yw y gorchymyn cyntaf raewn addewid), fel y byddo yn dda i íi, acfel y byddech hir-hoedlog ar y ddaear'' Y meddwl yw, nid y bydd i bob plentyn a anrhydedda ei rieni, a weinydda at eu holl raid, ac a gynal eu holl wendidau gyda siriolder mabaidd, gael byw i fyned yn hen ; canys gwyddoni fod rhai o'r pìant mwyaf ufudd yn marw yn ieuangc, eithr fod Duw yn edrych gyda chy- meradwyaeth neillduol ar y rhai a anrhydeddant eu rhi- eni, a'i fod yn eu gwobrwyo, neu yn eu bendithio y tu hwnt i ereill gyda llwyddiant a hir-hoedl. Fe all unrhy w un a dreulia ychydig o'i amser i sylwi ar y mater, a'i olrhain yn deg, gael ei foddloni yn fuan gyda'r sicrwydd fod Duw, mewn ystyr dymorol, wedi rhoddi sel ei fodd- lonrwydd neu ei anfoddlonrwydd yn fwy eglur ar ufudd- dod neu anufudd-dod i'r pumed gorchymyn, nag a wnaeth ar un gorchymyn arall yn y deng air deddf. Nid ydym yn dweyd fod y teilyngdod neu yr euogrwydd yn fwy yn yr achos yma nag jn un arall; eithr fod Duw yn gwneyd ei gymeradwyaeth neu ei anfoddlonrwydd yn y byd hwn yn fwy gweledig. Nid oes genym le rhesymol am funud i ameu, os byddai pethau ereill yn gyffelyb, nad yw y plant a anrhydeddant, a ufuddhant i'w, ac a achlesant eu rhieni, fel rhestr yn byw yn hwy, ac a ydynt eu hunain yn fwy anrhydeddus a üwyddianus na'r rhai a wrthodant wneyd hyny. Nid ydym yn cofio am gymaint ag un anghraifft o ofal a pharch neillduol i rieni, yn enwedig os