Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhif. 3. Mawrth, l£â&ŵ. Cyf. VII. Y CAPEL, Y FFAIR, A'R BRÍODAS; neu, crefydd yn ffrwytho yn mhob tywydd. Am y cyfiawn, dysgir ni yn y gyfrol santaidd ei fod " fel pren wedi ei blanu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd,'' " ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid â ffrwytho." Y mae ei holl fywyd yn cael ei brydferthu gyda'r ffrwythau cyfiawnder sydd yn tyfu arno, ac nid y lleiaf ohonynt ydyw ei eiddigedd santaidd tros ogoniant Duw, a'i awydd hiraethus am "enill eneidiau" at y Ceidwad. Dyma rai o'r ffrwythau cyntaf a ganfyddwn yn tori allan yn mywydau y cristion- ogion cyntaf. Pan welodd y Bedyddiwr yr Iesu yn rhodio ar ddechreu ei fywyd cyhoeddus, cyfeiriodd ato, a dywedodd, " Wele OenDuw!" Yr oedd dau o'i ddys- gyhlion yn gwrando arno yn pregethu yr Iesu, ac ymaith â hwy ill dau ar ei ol, a chydagef yrarosasant y diwrnod hwnw, ac ymadawsant oddi wrtho yn llawn o feddyliau parchus amdano, ac o gariad tuag ato. Andreas, un o'r ddau, a aeth yn fuan i ymofyn am ei frawd ei hun Simon, a dechreuodd adrodd iddo yr hyn a fu. " Nyni a gawsom y Messiah," meddai; " ac efe a'i dyg ef at yr Iesu." Tranoeth Philip, dyn ag oedd yn byw yn yr un dref, a ddygwyd at yr Iesu. Hwnw trachefn, heb oedi, a rodd- odd brawf o'i gariacl at y Ceidwad, a'i ofal am ei gyfaill, aca ddygodd Nathanael ato ef, fel y Gwaredwr addawedig. Y prawf goraf o'n parch i lesu Grist, ydyw ein hy'm- drech i ddwyn ereill ato ; a Ue bynag y mae ei grefydd ef wedi ei phlanu, y mae y ffrwyth hwn yn tyfu ar ei meddianwyr. I egluro hyn yn mhellach, adroddwn rai amgylchiadau a gymerodd le yn Lloegr, fiynyddau yn ol. Yn lled. fuan ar ol i'r diweddar Jno. Smith gael ei benodi i gylchdaith Nottingham, dyn ieuangc o üerby- shire a adawodd ei gartref a'i gyfeillioa mewn ffordd led