Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 2. CHwefror, l»i»4. Cyf. VII. Y GWRAGEDD YN LLWYDDO GYDA DUW AR RAN EU GWYR. Y fath gysylltiad agos sydd rhwng gŵr a gwraig! Mor anwyl ydyw yr undeb, ac mor fyw ydyw y cydym- deimlad sydd rhyngddynt! Nid oes ac nis gall fod perth- ynas mor agos yn y gymdeithas ddynol. Mae yn undeb serch, gofal, llafur, mwyniant, galar, a bywyd, nad oes ei gyffely b ar y ddaear. Ä'r hyn sydd yn ei goroni â gogon- iant ac à dedwyddwch llawn ydyw, eu bod "ill dau yn gyfiawn ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddifrycheulyd." Eithr nid oes Zacharias ac Eltsabeth i'w cael yn mhob tŷ. Yn rhy aml y gwelwn y rhai sydd yn medru cyd-dynu gydaphob peth aral!, heb fod yn tynu yr un fl'ordd ar eu taith i dragwyddoldeb. Ambell dro yr ydym yn gweled y gŵr yn grefyddol a'r wraig yn annuwiol; ond o fewn cylch ein cydnabyddiaeth ni, yn Uawer amlach byddwn yn gweled y wraig yn ymdrechu " byw yn dduwiol yn y byd sydd yr awrhon," a'r gŵr er ei galar yn byw " yn ol helynt y byd hwn." Yr ydym wedi bod yn sylwi yn lled fanwl ar ymarweddiad rhai o'r gwragedd duwiol hyn; ac ar ol craffu arnynt yn yr addoldŷ, ar ol ymddyddan à hwynt yn y tỳ, a gwrando ar eu gweddiau o flaen gorsedd gras, yr ydym wedi cael pob lle i gredu fod achos ysbrydol eu gwŷr yn gwasgu yn ddwys ar eu calonau. Sylwasom ar ambell wraig yn yr oedfa. Eisteddai yn ei lle a'í phriod wrth ei hochr. Pan y byddai y bregeth yn lled gynbyrfus, ei "gwefusau a symudent," ei llygaid a lanwent o ddagrau, a throai edrychiad dwysfeddylgar ar ei gŵr. Terfynai y bregeth, gwahoddai y pregethwr y sawl a deimlent duedd " i ffoirhag y llid a fycld*' i eistedd gyda'r gymdeithas eglwysig yn y lle. Gyda'r rhai cyntaf c&dai y gŵr i fyned ymaith. Edrychai y wraig yn drist a siomedig ar ei ol, nes ei goili yn y dorf y tu allan i