Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 9. Medî, 1S53. Cyf. VI. CRISTIONOGAETH O DDIFRIF. Dyweüai y dyn mawr a goleufarn hwnw, Dr. Chal- mers, mai dyna ydyw Wesleyaeth—Cristionogaeth o ddìf- rif. Heb un hwriad i ddiraddio ne.b rhyw gyfundrefn arail, nid ydym yn petruso dywedyd mai yn hon yr ydym ninau yn cael y darluniad cywiraf, a'r cynwysiad cyf- lawnaf o wir gristionogaeth. Y mae Trefnyddiaeth Wes- leyaidd wedi bod o fendith annhraethol, nid yn unig i'w phlant ei hun, ond hefyd i'r genedl, ac i'r byd yn gy- ffredinol. Hi a ddechreuodd ei gwaith yn dra amserol; ei harfau nid oeddent gnawdol, ond yshrydol; ac felly yn nerthol trwy Dduw, i fwrw cestyll i'r llawr. Yr oedd hi yn gorehfygu mewn cariad, yn huddugoliaethu mewn tangnefedd, gan ledaenu bendithion daioni i'r byd yn ddiwahaniaeth, nes iddi effeithio ail-ddiwygiad yn y byd crefyddol. Nis gallwn lai na theimlo yn wir ddiolchgar wrth daflu golwg yn ol, a chydmharu agwedd grefyddol ein gwlad yn bresenol â'r hyn ydoedd pan ddechreuodd Wesley ar ei lafurwaith efengylaidd. Nid oedd y pryd hwnw ond wyth neu ddeg o Weinidogion Eglwys Loegr yn meiddio pregethu yr athrawiaeth o Gijfiawnhâd trwy ffydd, ac yn barod i sefyll o blaid y rhai a beryglent yr oll ag oedd ganddynt wrth gyhoeddi gwirioneddau efengyl y bywyd. Yn awr, y mae gan yr Eglwys Sefydledig fil- oedd o rai sydd yn cyhoeddi ynddi yn gyson y gwirion- edd hwn a'i gyfí'elyb,—"Trwy ras yr ydych yn gadw- edig." Gwaith anhawdd ydoedd cyfarfod â neb y pryd hwnw a fyddai yn gwybod yn brofîadol am faddeuant o'u pech- odau. Yn awr, gellir cwrdd yn fynych à dynion o bob graddau a sefyllfa, yn barod i roi rheswm am y gobaith syddynddynt; eryrhaid ini gyfaddef eu bod i'w caelyn llawer amlach yn Lloegr eto nag yn Nghymru. Prin y ceid Beibl y pryd hwnw trwy yr holl fyddin Frytanaidd;