Skip to main content

Rhif. 8. Awst, 1853. Cyf. VI. BUGAIL ISRAEL. " Yr Arglwydd yw fy Mtigail." Y mae rhanau o'r Ysgrythyr wedi eu liysgrifenu mewn dullwedd cyffelybaidd—arferir gwrthddrychau amlwg a chyffredin i ddadlenu pethau goruchel ysbrydol- iaeth. Yn y wedd hon y defnyddiai y Salmydd y gair "Bugail" yn ein harwyddair dechreuol. Afraid ywhys- hysu, mai un yn gwarchoddeadellauydyw " Bugail." Y mae cymeriad y dosbarth hwn o ddyuion yn cael ei ys- tyried fcl safon tiriondeb; ac y maent yn cael eu codi yn uchel am eu rhinwedd a'u ffyddlondcb at braidd eu corlanau. Gan mai Bugail ydoedd Perganiedydd israel yn ei faboed, ac y gwyddai yn dda am ddaioni a thrugar- edd ei Arglwydd, gellircasglu fod y tfugr yn dra phriodol; prif gynwysiad yr hwn y w, gofal îhtw am ei bobl. Nis gall y Bugail naturiol ond tywys ei braidd hyd y maesydd gwyrddliw a'r llethri cribog. Na, nis gall or- chymyn y gawod, na pheri hâf. " Nis gall Paul ond planu, ac Apolos ond dwfrhau: Duw "biau'r cynydd." Nis gall y Bugail naturiol rwystrosychder haf, a thwym- Wres yr haul Uachar, nac attai yilifogydda ddylifant yn eu grymus hynt nes gorchuddio g-.vyrddliw ei ddolydd meill- ionog. Ondam "Fugail Israel," gall ef dywyseiddeadell hoff at ymylon santaidd y Seina hwnw, pan oeid y mynydd yn siglo yn ymyl ei Anfeidro) Santeiddrwydd. Gall eu tywys at ei "dýy' aci"fynydd ei santeiddrwydd," pan y bydd y mellt fforchog yn britho y ffurfafen. Gall eu tywys i "fynydd ei Santeiddrwydd'', pan y bydd yr udgornyn gryf, ac yn hir lais, aphan y bydd taranau y nefoedd yn tryruo wrth ben pechaduj; euog. Pan y bydd y ddeddf yn gwaeddi, Euog! euog! wrth ben yr aflan, dyma Fugail a all dywys ei braidd at ymylon y groes, a gwaeddi, " Mi a gymodaf y byd â mi fy hun, heb gyfrif eu pechodau."