Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAF. Rhif. 5. Maî, 1853. Cyf. VI. D Y N. " Pabeth yw dyn'ì" Joe. , "Wrth esgyn i fyny i ben mynydd myfyrdod, ac edrych o'n hamgylch ar yr amry wiaeth o greaduriaid sydd yn ymlwybro ar y ddaear, canfyddir fod Dyn yn ogonedd- asach na hwynt oll. Er ei fod wedi colli ei ardderch- awgrwydd cyntefig, yr hwn a berthynai iddo yn ei sefyllfa baradwysaidd, eto y mae rhyw argraff yn cael ei roddi ar ein meddyliau, er gweled yr adeiladaeth ddynol yn ruins y cwymp, ac yn adfeiliedig gan bechod, fod rhyw ogoniant mawr wedi bod yn perthyn i'r tŷ hwn. Gwaith bysedd " Tad y goleuni" yw dyn, a gorchestwaith Ior yn y byd isloerawl. Cyfeifydd yn ei gyfansoddiad elfenau a phriodoliaethau y byd sylweddol ac ysbrydol. Dolen ydyw ag sydd yn cydio amser a thragwyddoldeb gyda'u gilydd. Ac fel y dywed Young, " Dyn ydyw y cyfwng sydd rhwng diddymdra a Duw- dod." Ác felly priodol yw i ni fenthyca geiriau Dafydd, " Rhyfedd ac ofnadwy y'n gwnaed!" Y mae dyn yn-gyfansoddedig o gorff cy wrain ac enaid resymol. Sylwn, yn I. Ar ffurfiad cywrain ei gorff. Addefwn nas gall- ■wn roddi darlun celfyddydol ohono; ond y mae yn amlwg y gall pob dyn meddylgar gael allan fod y cyfan- soddiad dynol yn adeilwaith hardd, yn gyfanwaith camp- us, aö yn llawn o ryfeddodau ardderchog. Duw a luniodd gorff y dyn cyntaf o bridd y ddaear. Er fod y defnyddiau yn wael, ffurfiodd Duw gorff cywraint ohon- ynt. " A'r Arglwydd Dduw a luniasai y dyn o bridd y ddaear." Y mae ffurfiad corff dyn yn deilwng o'r Hwn a'i gwnaeth yn ogoneddus oddiallan, ac yn addurnwaith rhagorol.