Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhif. 4. Eferiîî, 19» 3. Cyf. VI. COFIANT BYR AM DAVID JONES, Mab Mr. David Jones, un o Flaenoriaid Capel Seion, Chester-street, Lẃerpool, yr hwn afufario Awst 7,1S52. David a aned Gorphenhaf 27, 1838, ac a fedyddiwyd yn Nghipel Seion gan y Parch. David Evans. Ar ol ei fedyddio, daeth dwy lady o'r Quakers yn mlaen—rhai o'r America—a chymerodd nn ef yn ei breichiau, megys y gwnaeth Simeon â'r Iesu yn y deml, gan ddywedyd, "YrArglwydd a'th fendithio, ac a'th wnelo yn fendith. 'Preswylied gair Crist ynot yn helaeth yn mhob doeth- ineb,'" Col. iii. 16. Gan ei fod yn fab i rieni crefyddol, cafodd ei ddwyn i fyny yn "addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd;" (Eph. vi. 4;) a bu yn gydymaith anwyl iawn i'w dad, nid fel mab, ond yn fwy fel brawd, yn ei hyfforddi yn mhethau Duw. Yr oedd yn aelod o'r Ysgol Sabbothol er yn ieuanc, ac yn dvsgu yn dda ragorol. Adroddodd lawer o bennodau o'r Beibl cyn bod yn llawn chwech oed, ar nos Sabboth- au, ac yn Nghyfarfodydd Chwarterol yr YsíjoI, yn Nghapel Seion. Yr oedd wedi dysgu y llyfr cyntaf o Holwyddor- ydd y Gynadledd —am Dduw, am Greadigaeth, am Gwymp Dyn, am Gyfiawnhad, am Nefoedd, ac am Uffern; ac yr oedd yn aelod hefyd o'r côr canu gyda'r lleisiau bach gwanaidd. Yr oedd hefyd yn bur selog yn yr Ysgol Ddyddiol, ac yn yfed ei ddysgeidiaeth yn mhob man, fel ag yr oedd ei athrawon yn synu mor gyflym yr oedd yn cyraedd dysgeidiaeth yn ei holl ranau. Pan yr oedd orideutu tair-ar-ddeg oed, rhoddodd ei dad ef mewn ofp.ce ship-broìcer, lle y bu atn naw mis yn hynod o'r medrus, ac yn boddhau ei feistr yn fawr; yr oedd hefyd yn lloni ei dad a'r teulu wrth ei weled yn dyfod yn mlaen mor dda; ac fel hyn yr oeddynt mewn gobaith y