Skip to main content

Y WINLLAN. Rhip. 2. CäaweífiW, 18 53. Cyf. VI. Y PARCH. RHYS PRICHARD, A. M. Farhad tudalen 3. Y mae yn dra hysbys iddo ysgrifenu llawer o bregethau, a phethau defnyddiol ereill, heblaw ei brydyddiaeth ra- gorol. Ond y mae'n debyg nad oedd ei deulu ar ei ol yn gweled fawr o werth ynddynt, a thrwy hyny, iddynt ryw fodd neu gilydd gael eu dyfetha, er mawr golled i'r Cymry. Nid oes genym yn argraffedig ond ei Ganiadau ynunig. Ond y mae Canwyll y Cymry yn waith mor ddefnydd- iol a gorchestol, fel y bydd parch iddo o'i herwydd mewn oesau dyfodol. Y mae awenyddiaeth Pen Baedd i'w weled mewn amrai o honynt; a diamau ei fod yn fedd- iannol ar gymhwysderau i farddoni yn gelfyddgar ac yn rheolaidd. Ond nid dangos ei gyneddfau a'i gywrein- rwydd oedd ei amcan ynddynt, eithrhyfforddi acadeiladu ei gydwladwyr anwybodus ; megys y dywed ei hun,— "Ni cheisiais ddim cywreinwaith, Ond mesur esmwyth, perfl'aith, Ilawdd ei ddysgu ar fyr dro, Gan bawb a'i clywo deirgwaith." Yn hyn o amcan rhagorol y mae yn dra sicr iddolwyddo. Bu, ac y mae, ei Ganiadau yn fendith gyffredinol yn ein gwlad. Y mae yn gynwysedig ynddynt athrawiaeth ra- gorol iachus, wedi ei gosod allan mewn prydyddiaeth ysgafn a dengar, mewn dull addas i amgyffrediad y mwyaf anwybodus. Hefyd, fe welir ynddynt helaethrwydd ei wybodaeth, iachusrwydd ei ffydd, ac ysbrydolrwydd ei brofiad yn mhethau Duw. Y mae gwirioneddau dwyfol wedi eu heglurhau ynddynt heb eu hiselu, neu eu gwael- ddangos; nid ydynt yn colli eu mawredd a'u grym dyl- adwy, nac yn cael eu gosod allan i warth a dirmyg. Y