Skip to main content

Y WINLLAN. Bhif. 12. Rliagfyr, 1952. Cyf. V. RAWLINS WHITE. Rawlins White oedd wrth ei alwedigaeth yn bysg- otwr, yr hon alwedigaeth a ddylynodd am o gylch ugain mlynedd yn nhref Caerdydd, mewn cymeriad da gan bawb o'i gymydogion. Er ei fod yn ddyn tylawd ac an- nysgedig mewn pethau crefyddol, fe welodd Duw yn dda ei symud oddiwrth gyfeiliornadau erchyll Pabyddiaeth, i iawn wybodaeth o'r gwirionedd, trwy y diwygiad bendi- gedig a gymerodd le yn nheyrnasiad Iorwerth VI. Yr oedd ganddo fab yn medru darllen Saesonaeg, ac yntau a wnai i'r bachgen ddarllen rhanau o'r ysgrythyr, a llyfrau da ereill, bob nos ar ol swper; ac felly, trwy gynorthwy ei fab, cynyddodd yn gyflym mewn gwybodaeth, fel y daeth yn alíuog ihyfforddi ereill mewnpynciau crefyddol. A phan y byddai achosion yn galw, âi ar ymweliad o'r naill fan i'r llall i edrych am ei gyfeillion, ac i'w rhybyddio a'u dyddanu ynnghylch eu matertragwyddol. Cafodd ei gynysgaethuâchofrhyfeddol, fel y gallaiadrodd adnodau, a'u cymhwyso at wahanol amgylchiadau a fyddai yn llesol i'w gyd-ddynion, mewn modd tra nodedig. Wedi bod am yspaid pum mlynedd yn dylyn ei alwed- igaeth, bu farw y Brenin, a dylynwyd ef i'r orsedd gan y Frenhines Mari, gyda'i lioll rym Pabaidd. White, ar ddymuniad ei gyfeillion, a ddylynodd yr un llwybrau ag o'r blaen, ond yn fwy dirgelaidd, nes o'r diwedd y cymer- wyd ef yn garcharor gan swyddogion y dref fel heretic, a dygwyd ef gerbron Esgob Llandaf. Danfonwyd ef oddi- yno i'r carchar i Chepstow, asymudwyd ef drachefn igas- tell Caerdydd, lle y cadwyd ef am flwyddyn gyfan. Yr oedd yn teitnlo ei ysbryd yn isel wrth feddwl am flinderau ei wraig a'i blant, ac wrth feddwl fod llawer o'i gyfeillion heb adnabod ffordd iachawdwriaeth.