Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhif. 10. Hydref, 1832. Cyf. V. YR ESGOB FARRAR. Dr. RobefyT Farrati oedd ŵr teiiwng a dysgedig, ac yn Esgob Tyddewi. Bu yn hynod o ffyddlon yn diwygio athrawiaethau, ac yn gwrthwynebu cyfeiliornadau y gref- ydd Babaidd, Gwysiwyd ef gerbron yr erlidgar Esgob Winchester, a swyddogion ereill ag oeddynt wedi eu penodi i'r gwaith atgas o anrheithio a merthyru. Y prif erlynwyr yn ei erbyn oeddynt George Constantine Wal- ter, ei was, a Thomas Young, cantor o'i Eglwys Gadeir- iol, wedi hyny Esgob Bangor. Gwrthwynebodd y copi'au cyhuddol ag oeddynt i'w erbyn, y rhai oeddynt yn cy- nwys unarbymtheg-a-deugain o erthyglau. Y mynediad yn mlaen o'i brawf afu yn faith ablinderus iawn—oediad yn canlyn oediad. Cafodd ei gadw yn hir mewn carchar dan feichiafon, yn nheyrnasiad Iorwerth vi.j o herwydd y dyrchafiad a gafodd gan Benciwdod gwlad yr haf. Ar ol marwolaeth y Brenin cafodd lai o gyfeillion i'w gynorth- wyo yn erbyn y rhai ag oeddynt yn ceisio trawsfeddiannu ei esgobaeth ef. Ar ol dyfodiad y Frenhines Mari i'r orsedd, cyhuddwyd ef am ei ffydd a'i athrawiaeth; am ba achos y galwyd arno ef ac Esgob Hooper, yn nghyda Mr. Rogers, Mr. Bradford, Mr. Saunders, ac ereill, i ym- ddangos gerbron Esgob Winchester, yr hyn a gymerodd le y 4ydd o Chwefror, 1555, ar ba ddiwrnod yr oeddynt oll i gael eu baruu; ond oedwyd ei ddedfryd ef, a danfon- wyd ef yn ol i'r carchar, lle yr arhosodd dan y 14eg o'r un mis. Gyrwyd efoddiyno i Gymru, i dderbyn ei dded- fryd. Dygwyd ef chwe gwaith o flaen Harri Morgan, Esgob Tyddewi, yr hwn a archodd arno i ymwrthod trwy lw â'r egwyddorion ag yr oedd yn eu cofleidio, ac apelio