Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 9. Me«li, 1851. Cyf. IV. YR IEUANC. Paham yr ydych yn byw mewn difaterwch o ewyllys Duw, ac mewn toriad gwastadol o'i orchymynion? meddai cydwybod. 0 herwydd fy mod yn ieuanc, yn moreuddydd bywyd, a chenyf amser digonol rhagllaw. Yr wyf yn dysgwyl edifarhau, a gadael heibio bechu cyn y byddaf marw, meddai y galon. Ond pwy ydyw y rhai hyny ag sydd yn dychwelyd at Dduw, ac yn edifarhau, a pha bryd y maent yn cyfiawni y gwaith? Yr ateb yw, Nid yr hen bechaduriaid gwargrymaidd, penwynion, y rhai a yfnsant bob cwpanaid o bleser pechadurus ag a allent ei gael, ac a dreuliasant allan eu cyrff a'u medd- yliau yn ngwasanaeth Satan. Ychydig iawn o'r rhai hyn sydd byth yn edifarhau ac yn cael gafael ar Dduw; ac ychydig iawn yn wir sydd yn dyfod yn blant i Üduwarol y gadawant ddeugain oed. Na, na, os bydd i chwi byth wneuthur Duw yn gyfaill, rhaid iddo gael ei Avneyd tra y gellwch roddi iddo wlith iraidd eich ieuenctid. Ond y mae ereill yn dylyn y byd, meddwch, a phaham na allaf finau wneyd hefyd? O herwydd eich bod chwi, fy nghyf- aill, yn fwy goleuedig, ac wedi eich addysgu yn well, a chenych gydwybod effroach, ac yn gwybod eich dyled- swydd yn well na llawer o honynt hwy. 0 herwydd ni rodia y dyn doeth yn llwybrau ynfydion; a chaneichbod chwi yn gwybod beth yw dyben, urddas, a mawredd enaid anfarwol, paham y cauwch eich llygaid, ac yr ewch yn noeth greadur amser i ymborthi ar ludw a gwynt y dwyrain? Ond nid yw yn gyfleus i mi yn awr i roddi sylw i'r mater hwn, ac i dori ymaith fy mhechodau trwy edifeirwch, meddwch. Felly y dywed y dyn pan yn