Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 8. Awní, 1SS2. Cyf. V. GOLYGFEYDD YN HANES CRIST. EI ENEDIGAETH. Priodol ydyw i ni ddechreu yn y dechread. Y mae yr Hen Destament yn dechreu gyda hanes ddechreuol y cread; ac y mae y Testament Newydd yn dechreu gan ddywedyd, " Llyfr cenhedliad Iesu Grist." " A gened- igaeth yr lesu oedd fel hyn," &c. Bydded i ni gymeryd bras olwg ar ffeithiau yr hanes. Enw lle genedigol Crist ydoedd Bethlehem Judea, tref fechan oddeutu chwe milldir oddiwrth Jerusalem. Gelwir y lle hwn hefyd yn " ddinas Dafydd," o herwydd mai ei le genedigol yntau ydoedd. Rhagddywedodd y proffwyd Mica mai yn Bethlehem y genid y Messia; Esay a hysbysodd mai o forwyn; a Daniel a nododd y flwyddyn. Cyflawnwyd y rhaghys- bysiadau hyn i drwch y blewyn. Gan hyny ni a gawn yma brawf eglur fod y proffwydi " yn llefaru megys y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân." Yr oedd Joseph a Mair yn byw yn Nazareth, dinas yn Galilea, oddeutu taith pedwar diwrnod o Bethlehem. " Os felly," meddai rhywun, "pafodd y bu iddo gael ei eni yn Bethlehem?" Yr hanesydd santaidd a etyb: " Bu hefyd yn y dyddiau hyny, fyned gorchymyn allan oddiwrth Augustus Cesar, i drethu yr holi fyd. A phawb a aethant i'w trethu, bob un i'w ddinas ei hun. A Joseph hefyd a aeth i fyny o Galilea, o ddinas Nazareth, i Judea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei fod o dý a thylwyth Dafydd) i'w drethu gyda Mair, yr hon a ddyweddi'asid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog. A bu, tra yr oeddynt hwy yno, cyfiawnwyd y dyddiau i