Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 7. Gorplicnhaf, 18 52. Cyf. V. DAL YR IESU. Yr oedd yr Iesu yn dysgu ffordd Duw mewn gwirion- edd, yn gwrthwynebu athrawiaeth gyfeiliornus yr ysgrif- enyddion a'r Phariseaid, ac yn ceryddu eu dallineb, eu rhodres, a'u rhagrith ; am hyny mynent hwy ei ddal. Ei weithredoedd nerthol, ei eiriau grasusol, ei athrawiaeth felys, a'r gwrandawiad cyffredinol a roddid iddo, a barent iddynt dramgwyddo wrtho; am hyny mynent hwy ei ddal. Llawer o yrndrechion a wnaethant i'w ddal; ceis- ient ei rwydo yn ei ymadroddion, ei gael yn anffafriol i Cesar, neu ei ddal yn tori y sabboth, ond yn gwbl ofer. Rhoddodd Satanynnghalon Judas, ei ddysgybl, i'w frad- ychu ef. Rhoddodd yn nghalon y Phariseaid filwaith i'w ddal ef; ond wedi iddynt hwy fod yn anllwyddiannus, aeth mor ddigywilydd a cheisio gan ei ddysgybl, y gŵr oedd anwyl ganddo, yr hwn a fwytaodd ei fara, ac i'r hwn yr ymddiriedodd efe, ei roddi yn eu dwylaw hwynt; ac wedi iddo gael byddin arfog, efe a'u harweiniodd i ardd Gethsemane; a hwy a'i daliasant ef, ac a'i harwein- iasant ef i dŷ yr archoffeiriad. Daliwyd yr Jesu yn ddirgelaidd a bradwrus yn y nos. —Ni feiddient ei ddal ef y dydd yn y deml. Er fod eu cynddaredd wedi cyneu yn ei erbyn, ac yntau yn eu plith beunydd, ni osodasant ddwylaw arno, am fod arnynt ofn y bobl. Yn absen y bobl y ceisient hwy ei ddal, ac nid yn gyhoeddus; am hyny aethant allan yn y nos i'w ddal yn ddirgel drwy fradwriaeth. Ni buasai y fyddin yn gwybod i ba le i fyned i chwilio am dano oni buasai fod y bradwr yn eu harwaiu ; gwyddai ef yn dda am hoff fanau yr Iesu, ac yn mha le yr arferai fod amlaf; gan hyny ar- weiniodd hwynt i'r ardd ag oedd y tuhwnt i afon Cedron, "oblegid mynych y cyrchasai yr Iesu a'i ddysgyblion