Skip to main content

Rhif. 12. Rhagfyr, 1851. Cyf. IV. "PAHAM Y BYDDWCH FEIRW?" Y mae y cwestiwn hwn mor gymhwysiadol i ddarllen- wyry "Winllan" ag ydoedd gynt i dŷ Israel. Ofni yr ydym fod ambell unohonynt ar y "ffordd sydd yn arwain i ddystryw." Y mae yn bosibl, o dan fendith Duw, y bydd i gynadleddu ychydig fel hyn yn nghylch pethau tra- gwyddol, ar y ffordd i dragwyddoldeb, fod o les i ryw enaid sydd eto yn annghymhwys i wlad y bythol haf. Modd bynag, cywir ddymuna yr ysgrifenydd iddi fod felly. Y cwestiwn sydd dra phwysfawr: un gair ynddo sydd yn ei wneuthur felly, sef marw. Nid oes dim ag sydd yn seingar yn y gair, nac yn ddymunol yn yr amgylchiad ei hun. Mor wahanol ydyw i'r gair bywyd! Y mae hwn yn syrthio yn soniarus ar ein clybod: y mae rhywbeth yn hwn ag sydd yn gydweddol â'n teimladau a'n dymuniad. Y mae pob bôd bywydol yn hoffi bywyd. Y mae yr abwydyn egwan a'r falwoden araí' yn casglu eu holl nerth yn nghyd er amddiffyn eu bywyd yn mhresenoldeb eu gelynion. " Croen am groen, a'r hyn oll sydd gan ŵr, a ddyry efe am ei einioes." Dyna wir am unwaith o enau " tad y celwydd." Ond y mae yn ffaith anwadadwy fod marwolaeth yn ein byd ni. Ni chyfeiliornem pe caniateid i ni ysgrifenu ar dalcen pob dyn byw, " Gan farw, tydi a fyddi farw." Cyfrif yr ysgrythyr am farwolaeth ydyw, iddi ddyfod trwy bechod. Pechod oedd yr achos, marwolaeth yr effaith. Tebygol yw na buasai yr ymadrodd marwolaeth mewn unrhyw iaith trwy y cread, oni buasai pechod. Siarada duwinyddion yn gyfl'redin am farwolaeth natur- iol, ysbrydol, a thragwyddol: y gyntaf yn golygu ysgar- iad y corff a'r enaid; yr ail, ysgariad yr enaid â Duw;