Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 11. Tachwedd, 1931. Cyf. IV. HEDDYW YN BYW I FARW; Y FORY YN MARW I FYW. " Y mae arnaf chwant i'm dattod, ac ifod gyda Christ." Dylwn foddloni i farw,— 1. Am mai yn bechadur marwol y'm ganed. 2. Am fod gwaelder fy nghyfansoddiad yn pregethu yn barhaus fy marwoldeb. 3. Dyma y gosodiad dwyfol. 4. Dyma y ffordd a deithiodd pawb, ond ychydig eithriadau. 5. Ymddarostyngodd Crist i'r farwolaeth boenusaf; ac oni byddaf finau yn foddlon i rodio yr un llwybr ag ef? Ond y fory yn marw ifyw.—Credaf hyny, yn 1. Ar brawf cyffelybiaeth. (Analogy Dr. Butler.) 2. Ar sail cydsyniad cyffredinol. 3. Dymuniad dyn am anfarwoldeb. 4. Gorchwyl cydwybod yn mhob dyn yn rhoddi i'r da y rhagbrofìon melysaf o'r gwynfyd; ond i'r drwg, y rhagolygfeydd arswydolaf o wae. 5. Y mae y gwyrthiau a gyflawnwyd yn dwyn eu tyst- iolaeth i hyn. 6. Profa rhai o'r dammegion hyn; yn enwedigdammeg y Goludog a Lazarus. 7. Y datguddiadau a wnaethpwyd i bersonau, megys i Stephan, Paul, a Ioan. 8. Ond gan Grist, gwir Oleuni y byd, y daeth bywyd ac anllygredigaeth i oleuni. O hyn allan "a bod" fydd fy arwyddair i. Fe lysg y byd gan dân; fe sych yr eigion mawr; fe beidia afonydd y byd â rhedeg; darostyngir uchelderau mynyddoedd; lledir dyffrynoedd; syrth ser y nef; y lleuad a attalia ei