Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhif. 8. Awst, 1851. Cyf. IV. Y PHILOSOPHYDDION GROEGAIDD. Y mae y gair philosophydd yn arwyddo un sydd yn caru doelhineb; ac yr oedd Solon yn un gwirioneddol felly. Ganwyd ef mewn lle a elwid Salamina, oddeutu 638 o fiynyddau cyn Crist. Yr oedd efe wedi disgyn oddiwrth deulu parchus ac anrhydeddus; ac o herwydd haelioni ac afradlonrwydd ei dad gorfu i Solon weithio ei ffordd am fywioliaeth trwy fasnachyddiaeth. Pr dyben hyny efe a deithiai i'r taleithiau cymydogaethol: ond yr oedd ei syched am wybodaeth yn ogymaint a'i awydd am arian. Edrychai ar gyl'oeth yu benaf fel moddion i ddwyn cysuron iddo ei hun, ac i wneyd daioni i'w gyd-ddynion. Dirmygai bob llwybr atinghyfreithlon i drysori golud. DoethinebSolon yn benaf, ac nid ei olud, aennillodd iddo barch ac anrhydedd oddiwrth ei gydwladwyr Parchent ef mor fawr nes iddynt gynyg iddo ei wneyd yn frenin arnynt, yr hyn a wrthododd; ondeto yr oedd yn awyddu am fod yn wasanaethgar i'w genedl, a dechreuodd ar y gorchwyl o ddiwygio y llywodraeth, awenau yr hon a gafodd i'w law ei hun mewn rhan fawr. Diddymodd gyfreithiau creulon Draco oll, oddieithr yr un am ladd. Dywedwyd am y deddfau hyny, eu bod fel pe buasent wedi eu hysgrifenu â gwaed, ac nid âg inc. Tybir gan rai mai Solon a sefydlodd yr Areopagus yn Athen. Der- byniwyd a chymeradwywyd deddfau newyddion Solon, a pharchid hwynt yn fawr. Taenwyd y son am danynt i wledydd ereill, adanfonodd Rhufain genhadau i Athen i'w hysgrifenu. Solon oedd y cyntaf yn mhlith y Groegiaid i reoleiddio y misoedd wrth y lleuad.