Skip to main content

Rhif. 7. Ctorphenhaf; 1951. Cyf. IV. Y PERYGL 0 WNEYD YN YSGAFN 0 GREFYDD. Ar fy nychweliad adref o'r brifddinas, lle y'm galwyd ar neges bwysig a phryderus, ar ol taith luddedig, yr hon a orphenais rhwng naw a deg o'r gloch y nos, mor gynted ag y cyrhaeddais i'm tŷ, (meddai Gweinidog yr efengyl,) hysbyswyd i mi fod cenad newydd fod yn ymofyn am danaf i ymweled â gwraig ieuanc, yr hon a briodwyd tua deuddeg mis cyn hyny, a'r hon yr ofnid ei bod mewn perygl dirfawr; yn wir meddylid na byddai byw hyd y bore. 0 dan yr amgylchiadau hyn, heb oedi dim, aethym ar unwaith i'r fan ag ydoedd fel hyn yn debyg o fod mor fuan yn "dŷ galar." Er mwyn cyfleusdra, galwaf y wraig ieuanc yn Rachel. Yr oedd yn blentyn i broffeswyr crefydd. Yr ydoedd hi ei hunan wedi gwneuthur proffes o grefydd, ac ymuno â'r gymdeithas Wesleyaidd; ond yr oedd wedi myned yn ddiofal. Nid oedd wedi bwrw ymaith yn hollol ei phro- ffes grefyddol; ond yr oedd gwresogrwydd teimlad cref- yddol wedi ei golli, ac nid oedd mwyach yn ymwueyd yn rheolaidd â dyledswyddau crefydd. Yr oedd Rachel yn yr ystyr yma wedi dyfad i wneyd yn ysgafn o grefydd. Deuddeg mis o flaen yr ymweliad hwn, priododd ddyn ieuanc, sefyllfa meddwl yr hwn nad oedd yn ddim gwell na'r eiddo hithau; ac felly, yn lle cydnaboä yr Arglwydd yn nghychwyniad eu bywyd, hwy a'i hannghofiasant yn ymarferol. Ond yr oeddynt yn fuan i gael eu hysgwyd a'u cyffroi yn arswydus o'r ystâd yma o ddifaterwch ys- brydol. Yr oedd Rachel er's ychydig ddyddiau wedi rhoddi genedigaeth i'w chyntafanedig, ac yn ymddangos