Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhif. 6. Mehefin, 1851. Cyf. IV. Y DIWEDDAR BARCH. JOSEPH BENSON. Ni bu yn ystod y canrif cyntaf o oes Wesleyaeth ond un Benson yn ei gweinidogaeth; ac fel yr oedd yn unigol yn ei enw, yr oedd í'elly hefyd yn ei ddoniau a'i wybodaeth dduwinyddol. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1748—aeth allan i'r weinidogaeth yn 1776—felly yn chwech-ar- hugain oed; a bu farw yn y flwyddyn 1821, yn 73 oed. Yr oedd wedi cael addysg ar fedr myned i weinidogaeth yr Eglwys Sefydledig; ond argymhellwyd ef gan Mr. Wes- ley i fod yn Athraw Ieithyddol i'r gwŷr ieuainc yn Nghol- eg Lady Huntington yn Nhrefeca, a Mr. Fletcher hefyd yn Athraw Duwinyddol ar yr un pryd. Yn ei ymddang- hosiad allanol nid oedd dim mawreddog nac urddasol ynddo. Pan yn y pulpud, byddai ei ddwylaw naill ai ar y Beibl neu ar y glustog—weithiau â'i fraich ddeau ar y pulpud, a'i fynwes yn pwyso arni, ac weithiau rhoddai ei fys a'i fawd yn llogell ei waistcoat, fel pe buasai yn chwilio am rywbeth; aphan y byddai yn dechreutwymno yn eibwnc, dechreuai gosi coryn ei ben, a thynu ei fys ar draws ei wefus uchaf. Pan wedi twymno yn dda ceid gweled y cadach llogell yn cael ei ddefnyddio yn gyson, tra ar yr un pryd y byddai yr hoel argyhoeddiadol yn caeí ei gyru i fan sicr. Nid oedd ei lais yn soniarus, ond yn gwichian, er hyny yn effeithiol iawn. Pregethwr ath- rawiaethol ac ysgrythyrol ydoedd—y naill ysgrythyr yn dylyn y lla.ll, a chlo gafaelgar yn y diwedd. Yr oedd gan- ddo gof rhagorol, Dy wedir fod yn anmhosibl ffurfio meddylddrych o hono fel Pregethwr oddiwrth ei bregethau sydd yn argraffedig. Lled dawel, ffurfìol, ac oer oedd corff ei bregethau; ond