Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhit?. 2. C liwefror, 1851. Cyf. IV. Y DIWEDDAR BARCH. SAMUEL BARDSLEY. Gellir dywedyd yn ddibetrus am dano yn ngeiriau ein Hiachawdwr am Nathanael, "Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes twyll!" Ato ef yr ysgrifenodd Mr. Ẃes- ley lawer o'i lythyraubyrion atharawgar, yn y rhai y mae bob amser yn ei alw "Dear Sammy." Yr oedd yn ddyn mawr, tew, a buasai yn llenwi y gadair freichiau fwyaf; ac yr oedd mor ddiniwed a phlaen a phlentyn; oblegid hyny yr oedd yn barchus boblogaidd, ac nid oblegid ei ddawn pregethu, yr hwn oedd o radd gyffredin iawn. Byddai rhai o'i hynodion yn creu chwerthin; ond yr oedd ei dduwioldeb yn santeiddio pob man lle y byddai yn adnabyddus. Er ei fod yn annysgedig, ac heb efrydu nemawr, yr oedd yn iach yn y ffydd, ac yn weithgar yn ei alwad fugeilaidd. Yr oedd yn meddu llawer o'r ddoeth- ineb sydd oddiuchod. Weithiau, ar ei fynediad gyntaf i Gylchdaith newydd, byddaiyn cael eidderbyn ynoeraidd gan y swyddogion, a chan y rhan gyfoethog a dysgedig o'r aelodau; ond yr oedd bob amser yn eu gweithio hwy i lawr oll, cyn pen hanner y flwyddyn, trwy ei serchog- rwydd, ei dduwioldeb, a'i ymroddiad i waith Duw. Pan yr oeddunwaithnewydd ddyfod i ryw Gylchdaith, awgrymwyd wrtho, mewn Cyfarfod Blaenoriaid, nadoedd iddo ddysgwyl bod yno ond un flwyddyn. Gan gymeryd arno nad oedd yn eu deall, efe a atebodd, " Gwir frodyr, dros flwyddyn yn unig y mae fy apwyntiad i; ond ni a fyddwn mor ddedwydd gyda'n gilydd, fel y byddwch yn ei diwedd hi yn dytnuno i mi aros yr ail, ac efallai y bydd i'r Conference fy ail apwyntio. Bydd yr ail flwyddyn yr un mor ddedwydd; a chan y cydweithiwn, fe lwydda achos Duw gymaint fel yr erfyniwch am fy nghael y drydedd