Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 11. Tachwedd, 1950. Cyf. III. Y PARCH. JOSEPH BEAUMONT, M. D. Y mae clod Dr. Beaumont, fel Pregethwr, yn gyffred- inol. Nid oes neb a â o fewn cyraedd iddo a'r na fyn ei glywed, os bydd bosibl. Y mae er hyny gryn wahaniaeth mewn barnau am ei ddoniau pregethwriaethol. Tybia rhai ei fod yn rhy boethlyd, tra y mae ereill yn canmol ei ddifrifoldeb ; rhai a dybiant ei fod yn rhy ddychymyg- ol, ac ereill a hoffant ei ddarluniadau awenyddol; tybia rhai nad yw yn ymresymu digon, tra y mae ereill yn gor- hoíH ei ddull darluniadol. Ond cydunant oll ei fod yn meddu athrylith neillduol, yn gywir a selog yn ei alwad santaidd, ac yn meddu rhyw ddylanwad arbenigol i rwymo clustiau a chalonau ei wrandawyr wrtho. Dyn y pulpud y w ef yn unig—yr hwn y mae yn anmhosibl eistedd dan ei weinidogaeth heb dderbyn budd, er gweled ei ddiffyg- ion. Y mae ei ddoniau weithiau yn disgyn fel pe medd- yliech am ryw gefnllif o lifeiriant mawr yn disgyn ar draws cerig a chreigiau, yn ysgubo pob peth o'i fiaen, gan wneyd rhuadau a swn yn adseinio i'r dyffrynoedd gorîs. Gyda hyny y mae yn esmwyth—fel yr un llifeiriant wedi cyraedd y dclòl wastad. Nid yw Dr. Beaumont byth yn pregethu yn ddadleuol, er ei fod bob amser yn eithaf athrawiaethol. Y mae gan- ddo ef fwy i'w wneyd â'r galon a'r gydwybod nag â'r deall. Nid oes dim hynod yn ymddangos yn rhaniadau ei bregeth. Y mae y diffyg sydd yn ei leferydd yn ym- ddangos i'w wneyd yn boenus a llafurus iawn. Y mae y Doctor yn gyfaill gwirioneddol trwy y tew a'r teneu, fel y dywedir, i'r neb y cymer efe sylw o hono. Os bydd ganddo ef ymddiried yn rhywun, nid oes dim a wnelo nac a ddywedo, o hyny allan, a ettyl iddo sefyll gydag ef, a thaflu ei achles drosto. Ni ofala beth fyddo