Skip to main content

Rhi*. 10. Hydrcf, 1850. Cyf. III. YR YSGOL SABBOTHOL. Boneddwr o'r enw Robert Raikes, dinesydd o Gaer- loyw, ydoedd yr un a ddefnyddiwyd gan Ben mawr yr eglwysfel prif offeryn yn sefydliad cyntaf yr athrofa saut- aidri hon, oddeutu diwedd y flwyddyn 1781, neu ddechre 1782, sef oddeutu wyth neu naw mlynedd a thriugain yn ol. Y mae yn wir y crybwylla croniclau yr oesau blaeu- orol ani gynygiadau iosod ar droed sefydliadau cyffelyb, yn hir cyn i'r planhigyn darddu allan yn Nghaerloyw. Y cynygiad cyntaf at hyny ag y mae genym hanes am dano, ydoedd yn yr unfed canrif ar bymtheg, yn Milan, dinas yu yr Eidal, gíin uu Siarl Borromes, archesgob pabaidd yddinas hòno. Efe ydoedd yr un a ddechreuodd gyntaf erioed y drefn o egwyddori plar.t ar y sabboth; ond llethwyd y cynygiad gau ddylanwad ofergoelion y bwystfii pabaidd. Yn mhen oddeutu 140 mlynedd wedi hyny. gwnaed cynygiad cyfi'elyb gan yr enwog Aleine, yr hwu a ddyoddefasai garcharau am "air Duw, a thystiol- aeth Iesu Grist." Wedi cael ei ryddid, ymneillduodd ar bwys ei fl'yn baglau i Gaerbaddon (Bath); a chan na chaniateid iddo agoryd ei enau yn gyhoeddus fel gwein- idog i Iesu Grist, efe a gasglai gynifer a allai o blant ar y sabboth, i'w hyfl'orddi yu athrawiaethau yr ysgrythyrau. Tebygol yw mai efe a'i wraig oeddynt y swyddogion cyntaf erioed mewn Ysgol Sabbothol Brotestanaidd; ond yr oedd yr oes hòno yn rhy auafaidd i'r planhigyn gwerthfawr gael gafael i'w wraidd, ac am hyny gwywodd a diflanodd. Modd bynag, yn mhen oddeutu 100 mlyn- edd wedi hyny, fe'i planwyd yn ngardd flrwythlon Caer- loyw, gau y dyngarwr Raiíces : y mae wedi tyfu yn bren mawr, a chenedlaethau y ddaear yn ymgysgodi dan ei gangau, ac yn bendithio Duw am dano.