Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhif. 7. Gorphenhaf, ISíiO. Cyf. III. MARWOLAETH DOROTHY JONES. Ganwyd Dorothy Jones Rhagfyr 28, 1828. Yr oedd hi yn bummed merch i Mr. a Mrs. John Jones, Carrier, Llanfyllin. Teimlai er yn blentyn dueddiadau crefyddol yn dylanwi ar ei meddwl. Yr oedd wedi cael y fantais o ddygiad i fyny gan rieni crefyddol; ac felly ymwasgodd at yr achos pan nad oedd ond ieuanc iawn. Yn Hydref y flwyddyn 1849, teimlodd duedd yn ei meddwl i fyned i Manchester i wasanaeth: yr hyn a'i tueddodd i feddwl am y symudiad hwn ydoedd, fod chwaer iddi newydd fyned yno i fyw, achan dybied ybyddent felly yn gwmni y naill i'r Ila.ll. Yr oedd y lle cyntaf y bu hi ynddo yn le mawr, llawer o weinidogion ynddo, a llawer iawn o annuwioldeb hefyd, ac yn hynod o'r annghyfleus iddi i fyned i foddion gras, yn enwedig yn y Capel Cymreig, o herwydd pellder y ffordd: parodd hyn i'w meddwl fod yn dra annedwydd yn ystod ei harhosiad yno, fel o'r di- wedd y daeth i benderfyniad i ymadael. Wedi hyny cyfarfyddodd â lle wrth l'odd ei chalon, gyda theulu cref- yddol, yn gyíleus i'r Capel Cymreig, a chaniateid iddi fyned yno yn rheolaidd. Addawodd iddi ei hun, yn y lle hwn, lawer o gysur, heb feddwl fawr ei bod yn myned yno i farw. Nid oedd er's blynyddau yn un gref ei Jiiechyd, ond teimlai yn gyffredin ryw nychdod a gwael- edd yn ymlynu wrthi; ac o herwydd hyny, yr oedd rhyw argraff parhaus ar ei meddwl nad oedd iddi hi ond tymhor byr i fod ar y ddaear hon. Meddyliai lawer am farw, ac ymddyddanai yn fynych à'i chwaer, pan y byddent yn nghyd, am y bedd, lle y teimlai ei bod hi yn myned. Dydd Llun y Pasc diweddaf, aeth i'w lle newydd, ỳn ddedwydd a siriol ei hysbryd, a thyfodd ar unwaith mewn cymeradwyaeth mawr gyda'r holl deulu. Yr oedd hi o