Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif.4. läbrHl, 1850. Cyf. III. Y DIWEDDAR BARCH. ADAM CLARRE, LL.D., F.A.S., &C. "Pan welais y Parch. Dr. Clarre gyntaf, darfu i'r olwg arno dynu fy sylw yn dra phleidiol iddo," meddai un. "Ei wallt yn wỳn ganhenaint, yn cael ei droi yn ol oddiar ei dalcen a'i arleisiau, ei wynebpryd yn wridog, ei gamrau yn llawn a digryn, a'i holl ymddanghosiad yn arwyddo iechyd; eigorffo daldra canolaidd, acyntueddu i fod yn dewychus. Yr oeddwedi ei wisgo fel boneddwr gwledig—botasau topiau cochion, clôs llwyd, côt lâs â botymau sidan neu wedi eu gorchuddio, gwasgod lwyd- ddu, het wen, a napcyn gwddf cyn wỳned a'r eira." Y mae pob Wesleyad, o bosibl, yn gwybod mai Gwyddel o enedigaeth oedd Dr. Clarke, er nad allesid gwybod wrth ei aceniad, gan ei fod wedi gadael yr Iwerddonpan yn fachgen, ac wedi colli llawer o lediaith dônog ei wlad wrth ddysgu ieithoedd ereill. Yr oedd pendefigeiddrwydd brodorol yn ei gymeriad. Yr oedd uwchlaw celu ei dybiau, ond efe a'u haddefai yn rhwydd pan y byddai amgylchiadau yn gofyn; a chan fod yn gydwybodoí o'i gywirdeb, byddai mor rhydd yn ei ymddyddanion cyfeillgar fel na phetrusai pa ddeongliad a allai ereill roddi ar ei eiriau. Buasai yn wir ryfeddod iddo beidio teimlo weithiau y parch mawr a ddanghosid iddo, ond nid byth uwchlaw ei deilyngdod; ac yr oedd yn arwydd o fuddugoliaeth gras nad oedd yr anrhydedd a orlwythid arno gan fyd ac eglwys yn cyfnewid dim ar gysondeb a symledd ei garitor. Etholwyd ef dair gwaith i'r swydd uwchaf yn mhlith ei frodyr, sef Llywydd y. Gy- nadledd, anrhydedd nad oedd neb arall, yn ei ddydd ef, wedi ei gyraedd. Yr oedd ei biegethu difrifol a phrofiad-