Skip to main content

Rhif. 3. Mawptli, 1850. Cyf. III. YR ENWOG LYWYDD WASHINGTON YN PHISYGWR. "Rhaid i chwi, fy mhlentyn," meddai gweddw dy- lawd, dan sychu y dagrau a dreiglent yn araf i lawr ei bochau curiedig, "ymdrechu begio ychydig sylltau. Nid oes dim mtíddion aralli'n cadw; yr wyf fi yn rhy glaf i weithio: ac ni ellwch yn sicr edrych arnaf fi a'ch brawd bach yn newynu: ac efallai, erbyn y darfydda y rhai hyny, y byddwn yn well. Ewch, fy anwyl Henry. Yr wyf yn gofidio yn fawr eich anfon ar y fath neges, ond y mae angen yn galw." Y bachgen, yr hwn oedd oddeutu deg oed, ac yn un bychan hynod o'r prydferth yr olwg arno, a neidiodd i fyny, a thafiodd ei ddwy fraich am wddf ei fam, ac a aeth allan o'r tŷ heb ddywedyd gair. Ond ni chlywodd ef mo'r ochenaid lwythog a roddai ei fam tra yr oedd y drws yn cau ar ei ol; ac yr oedd yn dda hyny, canys yr oedd ei galon fach eisioes yn curo fel calon aderyn, ac yn mron a thori o'i fewn. Mewn heol gefn yn Philadelphia, tra y cerddai yn ol ac yn mlaen, yn edrych ar un ac ar y llall ag oeddynt yn myned heibio, nid oedd neb o honynt yn ymddangos i edrych yn serchus ar Henry; a pha hwyaf yr oedd ef yn aros, teimlai ei wroldeb yn difianu, fel yr oedd yn myned yn fwy anhawdd gydag ef o hyd i gynhyrfu digon o ben- derfyniad i ofyn elusen, gwaith nad oedd wedi arfer âg ef erioed o'r blaen. O'r diwedd, wedi cwbl ddigaloni, de- chreuai ei ddagrau ddyferu ar hyd ei ruddiau bychain, ac eto nid oedd neb yn ymddangos i gymeryd sylw o hono ef; canys er ei fod yn lanwaith, yr oedd yn edrych yn dylawd a thrallodus: ac y mae yn beth cyffredin i'r ty- lawd a'r trallodus ŵylo.