Skip to main content

Y WINLLAN. Ehiî. 12. I4I»ag-f.yi«, 1919. Cyf. II. CRYBWYLLIAD AM ENWOGION. Cysteint a fu farw yn y flwyddyn 313, ac a gladdwyd yn Nghaerefrog. Dywedir gael yn ei fedd ef, yn amser Edward VI, lamp a gyneuodd yno yn wastadol o'r amser y claddwyd ef hyd y pryd hwnw, sef dros chwaneg na deuddeg cant oflynyddoedd. Cafwyd yr un fath lamp yn ruedd Tullia, merch Cicero yr areithydd, yr hon a gyneu- odd 1550 o flynyddoedd: ond oyn gynted ag y daeth go- leuni y dydd i mewn, hi a ddiffoddodd. Dychymyg od- iaeth oedd hwn o eiddo yr hen hobl i wneuthur lamp fel hyn i gyneu yn wastadol mewn tywyllwch. Tybia rhai mai aur wedi ei gyfnewid i rith arian byw oedd yn porthi y lamp; ond pa fodd bynag, y mae y gelfyddyd yn awr wedi ei cholli. Yn yr erledigaeth Vandalaidd caethgludwyd y Crist- ionogion i Affrica, lle y goddefasant gystudd a thrallod- ion mawrion. Pan wybu esgob a elwid Pawlin hyny, efe a fawr dristaodd yn ei ysbryd, ac a fwriadodd na chai dim fod yn ddiffygiol o'i ran ef i'w cynorthwyo. Felly efe a werthodd y cwbl ag oedd yn ei berchenogaeth, ac a ddan- fonodd y gwerth at y Cristionogion caethiwol yn Affrica. Yna daeth gweddw dylawd ato, ac a fawr ymbiliodd âg ef i roddi cymaint iddi agaryddhäai ei mab o'r caeth- iwed hwnw. Yr esgob a ddywedodd wrthi, nad oedd geiniog fechan wedi aros ganddo, eithr os ewyllysiai hi gymeryd ei berson ef ei hun, a'i werthu, y cai hi yn ewyllysgar. Pan glybu y weddw druan yr ymadrodd hwnw, hi a dybiodd ei fod yn ei gwatwar yn hytrach nag yn trugarhau wrthi. Ond efe a sicrhaodd iddi ei fod ef yn siared o ddifrif, ac y gwnai fel y dywedodd; ac o'r diwedd y wraig a'i coeliodd ef. Felly hwy ill dau a gy- merasant long, ac a ddaethant i Affrica; ac yn ddiatreg yr