Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhip. 10. llyrtreí, 1819. Cyf. II. CRIST WRTH FFYNNON JACOB. Y mae y ffynnon hon eto raewn bod; ac o honi hi y maetrigolion yr hen Sichar, a elwir yn bresenol Naplous, yn cael eu diwallu à dwfr. Y mae hi wedi ei thori allan o graig gadarn, ac y mae yn ddofn iawn. Dywed traddod- iad iddi gael ei gwneyd gan Jacob. Yr oedd Crist ar ei ffordd o Judea i Galilea, ac, yn ol eiarfer, yn teithio ar ei draed. Yroeddhi tua deuddeg o'r gloch pan ddaeth at y ffynnon, yn flinedig, yn newynog, ac yn sychedig iawn. Eisteddodd i lawr wrth y ffynnon i orphwys tra yr elai ei ddysgyblion i'r ddinas i brynu bwyd. Yn absenoldeb y dysgyblion, daeth gwraig o'r ddinas i geisio dwfr. Gofynodd Crist iddi am ddwfr i"w yfed. Arweiniodd hyn i ymddyddan rhyngddynt. Tiöodd Crist yr ymddyddan at bethau crefyddol. Gwyddai fod y wraig yn bechadures fawr. Er ei í'od yn flinedig iawn, eto nid oedd wedi blino gormod i geisio achub enaid. Byddai Crist yn ofalus i wneyd y defnydd goraf o bob cyfleusdra i wneyd daioni. Ni byddai cfe byth yn csgusodi ei lmn, fel y byddwn ni yn fynych, am ei fod yn llesg a blinedig. " Ptisport a gaf heddyw?" ydyw ypeth cyntaf a ofynir yn y bore gan lawer o ieuenctid ein gwlad. Ond " Pa ddaioni aallaf ei wneyd heddyw ?" a ddylai fod y gofyniad cyntaf bob bore gan bob dyn ieuanc, ac felly dylynent siampl yr Athraw nefol, a byddent ddedwydd iawn. Fy nghyfocdion ieuainc, rhown dreial ar hyn, trwy ddechreu pob diwrnod, gan ofyn, " Pa ddaioni a allaf ei wneuthur heddyw? Pa weithredoedd cymwynasgar a allaf eu cyf- lawni? Pa eiriau tyner a allaf eu llefaru, ag a fyddont yn tueddu at wneyd ereill yn ddedwydd ?" Nid oes un llawenydd yn debyg i'r llawenydd o wneyd daioni.