Skip to main content

Y WINLLAN. Bhip.9. MotSÌ, 1949. Cyf. II. ALEXANDRIA. Adeiladwyd y ddinas freiniol hon gan Alexander Fawr, oddeutu O. C. 331. Y mae ei sefyllf'a ar oror or- llewinol yr Aifì't, ar ffin anialwch Lybia, rhwng M6r-y- canoldir a llyn Mareotis yn yr Aifft Isaf. Alexander, wrth ganfod ei sefyllfa fanteisiol, a dybiodd ei gwneyd yn ganolbarth ei amherodraeth, a masnach yr holl fyd: am y peth olaf hyn bu yn dra hynod. Pan ddaeth y Ptolemiaid yn llywodraethwyr yr Aifft, dygasant yn fuan y fasnach ddwyreiniol i'w teyrnas hwy, trwy adeiladu Berenice a phyrth ereill ar oror orllewinol y Môr Coch, a gosodasant y brif faelfa yn Alexandria; ac o ganlyniad cododd hon i fod y ddinas fwyaf ei masnach yn y byd, apharhaodd felly am ganrifoedd; hefyd dygid holl farsiandiaeth y rhan orllewinol o'r byd gyda Persia, Arabia, India, a'r oror ddwyreiniol i Affrica, trwy y lle hwn, ac yna trwy y Môr Coch, hyd oni chanfyddwyd ffordd i fyned i'r lleoedd hyn trwy amgylchu Penrhyn Gobaith Da. Yr oedd y ddinas hon yn hynod am ei pharos, neu oleudŷ, yr hwn oedd yn un o saith ryfeddod y byd; a'i phalas, yr hwn a gynwysai ran fawr o'r ddinas : tufewn i'w furiau yr oedd amgueddfa a nawddle i ddysgedigion, teml Serapis, &c. Maethwyd celfyddyd a gwyddoniaeth yn fawr ynddi, ac ni ystyrid neb yn ddysgedigion ond y rhai a ddygid i fyny yn ei hysgolion. Yr oedd ynddi lyfrgell helaeth, 700,000 o gyfrolau; ond yn anhapus llosgwyd rhan o honi yn amser y rhyfel rhwng Cesar a'r Alexandriaid. Yr oedd yr hen ddinas oddeutu 15 milldir o amgylch- edd: yr oedd yn rhedeg o borth y môr, trwy holl hyd y ddinas, heol wech, 2000 o droedfeddi o led, yn terfynu