Skip to main content

Y WINLLAN. Rhiî. 8. Iwst, 18 49. Cyf. II. AR FYFYRIO. Y gallu i fyfyrio ydyw un o brif ragoriaethau enaid rhesymol, trwy ba un y dyrchefir dyn uwchlawholl gread- uriaid Duw; ac un o'r prif alluoedd trwy baun y cynydda ac'yr ymeanga yr enaid mewn gwybodaeth a phrofiad. Trwy fyfyrdod y mae dyn yn cael allan wirioneddau dwfn, pwysig, a dirgelaidd, trwy ba rai y dedwyddolir ei deimlad, yr helaethir ei wybodaeth, yr adferir ef yn ol tuag at ei ogoniant dechreol, acyr ymdebygola i'w Dduw. Y mae myfyrdod yn cynull yn nghyd holl alluoedd yr enaid at ei wasanaeth. Pan mewn dwys fyfyrdod ar unrhyw wirionedd, rhaid i'r cof ymwaghau, rhaid i'r serch ollwng ei afael, a rhaid i'r ewyllys droi ei chefn ar bob gwrthddrych arall, ac ymsefydlu yn unig ar wrthddrych y myfyrdod; ac mewn canlyniad chwanegir ystôr y cof, dygir allan wirioneddau newydd i'r serch a'r ewyllys eu cofieidio, a gosodir yr holl enaid ar ei ennill yn fawr. Myfyrio, ond cymeryd yr iawn wrthddrychau, a fydd yn dra thebyg o droi y dyn o gyfeiliorni ei ffordd i'r iawn; canys pa ddyn a fyfyria yn iawn ar drueni uffern, poenau y ffiamau, a llid Duw hollalluog, ac eto a reda y ffordd sydd yn arwain yno ? neu a fyfyria yn iawn ar arswydol- rwydd y farn, tanbeidrwydd yr orsedd, ac ofnadwy olyg- fa y Barnwr, ac eto abarha mewn gelyniaeth i'r Bainwr? neu a fyfyria yn iawn ar ogoniant y nef, ar felysder cym- deithas saint ac angylion, ar ddifyrwch presenoldeb Duw a'r Oen, ar y telynau aur a'r palmwydd pur, a'r ni adawa bob peth a chanlyn Crist? Myfyrio, ond cymeryd yr iawn wrthddrychau, a loywa brofiad, a bura gydwybod, ac a santeiddia enaid plentyn Duw. Myfyrio sydd un o brif ordeiniadau Duw tuag at faethu ei blant mewn gras a rhinwedd: ac y mae y plentyn yn hoff iawn o fyfyrio ar waith ei Dad. Pan y mae ond yn edrych ar waith ei