Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rm-e. 7. Oorphenhaf, 1949. Cyf. II. Y PENDIL ANFODDLON. Hen Gloc, yr hwn oedd wedi cadw ei amser am han- ner can mlynedd mewn cegin ffarmwr, heb roddi iddo ddim achos cwyno, ryw fore haf, cyn codi'r teulu, a saf- odd yn sydyn. Ar hyn, y Gwyneb (os gellir credu y chwedl) a newid- iodd ei wedd, dan synu: y bysedd a wnaethant eu goraf i í'yned yn míaen, ond yn ofer,—safodd yr olwynion yn ddychrynedig, a'r pwysau hefyd,—pob aelod oedd yn barod i daflu'r bai ar y lla.ll. Yn mhen ychydig dechreuodd y Gwyneb wneuthur holiad manwl am achos y rhwystr; a dyma'r bysedd, a'r olwynion, a'r pwysau, âg un llais yn tystio eu diniweid- rwydd.—Ond gyda hyn clywid " ticyn" gwan oddiwrth y Pendil isod, yr hwn a ddywedodd fel hyn :— " Yr wyf yn cyfaddef mai myfi yw unig achos y dyrys- wch hwn; ac er boddloni pawb, yr wyf yn barod i roddi fy rhesyinau. I ddywedyd y gwir, yr wyf wedi blino ar fy ngwaith." Pan glywodd yr Hen Gloc hyn, aeth yn fîyrnig dros ben—bu agos â tharawo. " Bendil diog!" ebai y Gwyneb, gan estyn ei fysedd. " Y mae yn ddigon hawdd i ti, Meistr Gwyneb," meddai y Pendil, " a thithau, fel y gŵyr pawb, wedi gosod dy hun uwch fy mhen i,—y mae yn eithaf hawdd, meddaf, i ti gyhuddopobl ereill o ddiogi! Nid oes genyt ti ddim i'w wneyd o fore hyd nos, ond edrych yn ngwynebau pobl, a difyru dy hun âg ysp'ío ar bob peth sydd yn myned yn mlaen yn y gegin. Meddwl fynyd, da ti, beth pe byddit wedi dy gau i fyny am dy hoedl yn y gist dywell hon, i siglo yn ol ao yn mlaen, flwyddyn ar ol bíwyddyn, fel y mae yn rhaid i mi!"—"O, am hyny," ebai y Gwyneb, " onid oes genyt ti ffenestr yn dy dý, o bwrpas i ti edrych trwyddi?"