Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 6. Mel»t*«ii, 1949. Cyf. II. Y NILUS, NEU AFON YR AIFFT. Mr. Gwinllanydd,—Gan eich bod yn bwrw sypynau o win- rawn raor beraidd dro ar ol tro i'r gwin-gafn, os caniatewch, minau a fwriaf sypyn gyda chwi; a gobeithiaf na fydd ynddo winrawn surion. J. Jones, Blaenycoed. Y Nilus, neu y Nile, yw prif afon yr Aifft, yn gystal a'r hen fyd. I hon y mae yr Aifftiaid yn ddyledus am ffrwythlonrwydd y tir, a hyny o achos ei gorlifiad blyn- yddol dros y wlad. O'r af'on hon y gwelodd Pharao, yn ei freuddwyd, y saith o wartheg têg, a'r saith o wartheg culion, yn esgyn. I hon y bwrid plant bach yr Hebreaid gynt; ac i hesg hon y bwriwyd y bachgen tlws hwnw^yr hwn a guddiwyd dri mis gan ei fam. Trowyd hon hefyd yn waed, ac eigiodd lyffaint, pläau yr Aifft. Y mae dwfr hon yn ddanteithiol a iachus iawn; a dywedir am bwy bynag a yfa o honi, y dymuna efe yfed o honi drachefn. Ond nid yw ei dwfr yn lân iawn, eto y mae yn beraidd odiaeth. Ond i fod yn fyr, ceisiaf ei dysgrifio. 1. Ei tharddiad.—Dywedai yr henafiaid fod ei thardd- iad yn mynyddau y lloer; ond dywed teithwyr diweddar mai yn nheyrnas Gojam yn Abyssinia, lled. ]2« gog., y tardda, o ddau lyn bychan o faint ffynnon gyffredin. Cy- nyddir hi yn fawr trwy arllwysiad amrai'ffrydiau iddi cyn yr ymadawa âg Ethiopia, ac o'r diwedd deua i'r Aifft. 2. Ei rhaiadrau.—Y mae iddi amrai raiadrau, ond nid oes yr un o honynt yn uchel. Ni ddisgyna dros graig uwchna dwy droedfedd mewn unrhyw fan; eto y mae rhedfa yr afon yn gyflym iawn cyn dyfod i'r cwymp; ond nid ydyw o rwystr i forwriaeth yr afon. Arfera dau o'r trigoüon weithiau, er difyrwch i'r ymdeithydd, fyned mew'n cwch dros y lleoedd hyn, ac ânt i lawr mor gyf- lymed a'r saeth—digon i wneyd i'r edrychydd dyeithr