Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhiy. 4. 13bi*ill, 1849. Cyf. II. "AMSE R." Ât Ddarllenwyr y " Winllan." Amser ydyw yr ystâd hòno a gafodd dyn i ymbarotoi erbyn tragwyddoldeb, ac o herwydd hyny nid oes dim yn fwy pwysig yn ei ganlyniad na'r iawn neu gam ddefnydd- iad o hono. Meddwl am dragwyddoldeh—ei barhad, an- sicrwydd bywyd, ac fod yn rhaid bod mewn un o ddau le wedi i amser ddarfod am dragwyddoldeb—sydd ddigon o reswm ibawb paham y dylid defnyddio amser i'r dyben ei gosodwyd. Byddai dangos ychydig onodweddiad cam- ddefnyddwyr amser yn gam, fe allai, i'r iawn bwynt, Y maent yn difrio Gosodwr amser, y maent yn ennill y cymeriad dù. hwnw, " Gwastraffwyr amser, a diystyrwyr addysg." Camddefnyddir amser yn y dull a'r lleoedd a ganlyn:—yn y dafarn, lle y mae cymdeithasfa y gwas- traffwyr amser yn cyfarfod. Yn yr efuil, ceir gweled cynulliad o segurwyr yn ymgasglu yn nghyd i ddyfetha eu hamser, trwy adrodd chwedleuon gwâg a difudd. Hefyd gartref neu yn nhŷ cymydog yn ysmygu tobacco, ac yn adrodd chwedlau gwrachaidd a diwerth. Dywed- odd yr apostol Paul am " brynu yr amser:" ond y mae y rhestr uchod yn gwerthu eu hamser ar draul colli eu ded- wyddwch. O drueiniaid! os gwastraffant eu hamser gwerthfawr allan, byddant fel Esau ar ol gwerthu ei enedigaeth-fraint, yr hwn "ni chafodd le i edifeirwch, er iddo ei thaer-geisio hi." Pa nifer, ar ol gwastraffu eu. hamser fel hyn, pan ar wely marw, a roddent ül o fyd- oedd, pe buasent ganddynt, am gael estyn eu hamser ychydig flynyddau! Rhestr arall sydd yn dyfetha amser yn ofnadwy ydyw y rhai hyny sydd yn segura ar y dydd Sabboth. Dydd i gofio am adgyfodiad Crist o'r bedd, pan fu yn agor ffordd i deulu y codwm bore ddyfod adref