Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 3. MawftSa, 1849. Cyf. II. YSTYRIAETHAU I BOBL IEUAINC. Nis gellir treulio ein hamser yn fwy difyr a boddhaol na thrwy ddarllen. Y mae yn sicr fod dynion mewn sefyllfaoedd yn y byd nad oes ganddynt lawer o amser i'w roddi at welliant eu meddwl; ac eto, yri nghanol pry- surdeb bywyd, y mae llawer o adegau, ond eu casglu yn ofalus a'u hiawn ddefnyddio, a roddent gyfleusdra i ddar- llen niferoedd o gyfrolau defnyddiol, a chasglu llawer o wybodaeth werthfawr. Ni fwriadwyd i ddyn dreulio ei holl fywyd fel yr anifel direswm, gan ddarparu ar gyfer y corff yn unig, a gadael y meddwl, yr anfarwol feddwl, i newynu a threngu. Y gwirionedd yw, dylai fod gan bob dyn amser i ddarllen. Yr anhawsdra ydyw, nad ydynt yn ofalus am ei iawn ddefnyddio. Y mae amser yn cael ei dreulio ymaith mewn diogi, mewn cysgu, mewn siared, neu ynte mewn rhyw fodd arall cwbl mor ofer a diles; ac yna cwynant nad oes ganddynt amser i'r gorchwyl pwysig o feithrin eu meddwla'u calon. Nid y w gwerthfawredd amser yn cael ei iawn ystyried. Pa fodd y gallwn dreulio ein horiau seibiaut yn fwy ple- serus na thrwy gynal i fyny gyfeillach ddifyr gyda'r doeth a'r da trwy gyfryngoliaeth ei ysgrifeniadau? I'r meddwl cywrain a gweithgar, y mae llyfrau yn agoryd ffynnonell lawn a dihysbydd o fwyniant, ac ni all dim ein hamddi- fadu o'r mwyniant yna, am ei fod yn y meddwl, ac felly yn aros gyda ni yn wastad. Y mae cyfrol ardderchog natur yn gorwedd yn daenedig o'n biaen ; ac os medrwn ddarllen ei rhyfeddodau, yr holl fyd a dywallt ei drysorau wrth ein traed, a gallwn gynal i fyny ymddyddanion difyr gyda Duw ei hun. Ond i'r rhai hyny nad ydynt arferol â darllen llyfrau ereill, ymddengys y gyfrol hon hefyd iddynt hwy, er ei