Skip to main content

Rhif. 2. Chwefror, 1949. Cyf. II. Y PHILOSOPHYDDION GROEGAIDD. At Ddarllenimjr ieuainc y " Winìlan." Anwyl Gyfeillion,—Yr ydych, yn ddiamau genyf, wedi clywed yn awr ac yn y man am y philosophyddion Groegaidd; a meddyliais na byddai ychydig o hanes y rhai enwocaf o honynt ddim yn annerbyniol genych. Hyny a ddechreuwn gyda Thales, yr hwn a ystyrir y mwyaf enwog o honyntoll. Ganwyd ef mewn tref a elwir Melitus, oddeutu 643 o flynyddau cyn Crist. Ei dalentau mawrion, yn nghyda'r cyfoeth a adawyd iddo gan ei rieni, a'i dygodd yn fuan i sylw ei gydwladwyr. Am beth amser gwasanaethodd yn ngwahanol swyddi perthynol y ddinas, a chyfododd i'w anrhydedd uwchaf. Ond yr oedd Thales yn awyddu am wybodaeth. Daeth i benderfyniad i ymneillduo oddi- wrth bob peth cyhoeddus, ac aberthu ei oll yn yr ym- chwil am ddoethineb a gwybodaeth; ac i'r dyben i'w cael, teithiodd trwy y gwledydd a'r dinasoedd agoeddynt yn yr amserau hyny yn enwog am eu dysgeidiaeth. Y prif le y pryd hwnw ydoedd yr Aifft. Yno y bu yn myfyrio Astronomyddiaeth a'r Mathematics. Trwy ym- roddiad mawr, daeth Thales ei hun yn enwog am ei wy- bodaeth Astronomyddol: rhagddywedodd am ddiffyg- iadau yr haul a'r lleuad; sylwodd ar symudiadau a threfn ycyrffncfol; dosranodd drel'n y tymhorau; a sefydlodd rifedi dyddiau y flwyddyn yn 365. Fel na chai dim fod yn attalfa i'w gynydd mewn gwy- bodaeth, cyflwynodd ofal ei feddiannau i un arall, ac am yr un rheswm ni phriodai; a pha bryd bynag y byddai i'w fam hysbysu iddo ei dymuniad iddo wneyd felly, ei ateb parhaus oedd, "Pan y mae dyn yn ieuanc, y tnae yn rhy fuan iddo wneyd hyny; a phan y mae yn hen, y mae