Skip to main content

Y WINLLAN. Rirnr. 1. loimwr, IHlîì. Cyf.'II. AMSER YN CAEL EI FESUR WRTH DRA- GWYDDOLDEB. " Canys beth ydyw eicli einiocs cliwi ?" Y mae y gofyniad hwn wedi cyfarfod â llygad miloedd, heb gael yr argraff lleiaf ar eu meddyliau; ac y mae lle i ofni ei fod yn cael myned trosto gyda chyn lleied o ystyr- iaeth a phe byddai yn un o'r pethau lleiaf ei bwys. Ond os safwn ni am foment i ystyried ei gynwysiad—os bydd i ni dafiu cipolwg ar ei bwysigrwydd dirfawr, a gwrando ar ei bwyslais, ni a ganfyddwn nad yw yr holl bethau hyny ag sydd yn cynhyrfu teyrnasoedd, ond fel mân lwcb y clorianau mewn cydmhariaeth iddo. " Canys beth ydyio eich einioes chwiT' Yr atebiad cyntaf, a'r hawsaf ei ddeall, ydyw yr hwn a rydd yr apostol ei hun iddo. "Tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ae wedi hyny yn diílanu." Ymddanghosiad byr ydyw o obaith a siomedigaeth, o lawenydd a thristwch, o dd,e- chread a diweddiad. Ond tra y byddom ni yn ystyried y gofyniad hwn, y mae pwnc arall ag sydd yn llawer mwy ei bwys, sef, fod ein bywyd ni yn drothwy i dragwyddol- deb—mebyd anfarwoldeb ydyw. Yma y mae ein cymer- iadau i gael eu ffurflo dros oesoedd dirifedi o fodoliaeth ddyfodadwy. Y mac ein tragwyddol ddedwyddwch, neu ein tragwyddol drueni, yn ymddibynu ar y defnydd a wnelom ni o fodfedd neu ddwy o amser. Y fat.h we«th rhyfeddol a rydd yr ystyriaethau hyn ar yr anadl sydd yn ein ffroenau! Beth! ai ar ei pharhad y mae eich bywyd yn ymddi- bynu?—y tarth, y chwedl a adroddir, y breuddwyd, y ddeilen wywedig, y cwmwl ymollyngedig, y blodeuyn gwywedig. Pan y mae yrhaul yn machludo, y mae y nos yn dylyn yn dra chyflym. Ni a awn i'r ystafell, ac a